

Ymunwch â’r tîm!
Mae Tîm Iau Porthmadog yn chwilio am wirfoddolwyr angerddol, trefnus ac ymroddedig i ymuno â’r pwyllgor.
Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth ym mhêl-droed iau yn ein cymuned, hoffem clywed gennych chi!
Ar hyn o bryd rydyn ni’n recriwtio ar gyfer dau rôl gwirfoddol –
1. Ysgrifennydd y Clwb Iau
2. Is-gadeirydd
Ysgrifennydd y Clwb Iau – Person trefnus y clwb. Fel ysgrifennydd, chi fydd prif bwynt cyswllt y clwb.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
- Trosglwyddo negeseuon a gohebiaeth i’r hyfforddwyr o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd-orllewin, a’r gynghrair;
- Trosglwyddo manylion unrhyw newidiadau i gemau i’r hyfforddwyr fel y’u trefnir gan y gynghrair, a hysbysu’r gynghrair am gemau cartref sy’n cael eu chwarae.
- Helpu i archebu caeau a chyfleusterau os oes angen.
- Gweithio gydag aelodau eraill o’r pwyllgor fel y Cadeirydd, y Trysorydd, y swyddog Diogelu ac ysgrifennydd cofrestru chwaraewyr.• Diweddaru system COMET Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda manylion hyfforddwyr a gwybodaeth am y clwb gan gynnwys cofrestru cystadlaethau ar gyfer y tymor nesaf.
Is Gadeirydd / Cynrychiolydd rhieni – Arweinydd a chefnogwr strategol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud –
- Fel is-gadeirydd byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â’r Cadeirydd i lywio gweledigaeth y clwb a chefnogi ein hyfforddwyr a’n gwirfoddolwyr.
- Camu i mewn yn absenoldeb y Cadeirydd pan fo angen, a helpu gyda threfnu cyfarfodydd a’n twrnamaint blynyddol.
- Bod yn bwynt cyswllt i rieni, a hefyd yn gyswllt rhwng rhieni, y gymuned a’r pwyllgor.
Mae’r rhain yn rolau pwysig yr hoffem eu llenwi cyn gynted â phosibl. Byddwn yn eich cefnogi ac yn sicrhau y gallwch drawsnewid yn hawdd i fod yn rhan o’n tîm cyfeillgar.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni, a byddwn yn falch o glywed gennych.
Cyswllt:
07813 884615
Join the team!
Porthmadog Juniors are looking for passionate, organised and dedicated volunteers to join our committee. If you want to make a difference in junior football in our community, we want to hear from you!
We are currently recruiting for two volunteer roles –
- Junior Club Secretary
- Vice Chair
Junior Club Secretary – The organised engine of the club. As a secretary you will be the main point of contact for the club.
What’s involved –
- Pass on messages and correspondence to the coaches from the FAW, NW Coast FA, and the league;
- Pass on details of any changes to fixtures to the coaches as organised by the league and inform the league of home matches being played.
- Help book pitches and facilities if required.
- Work with other members of the committee such as the Chair, Treasurer, Safeguarding officer and Player registration secretary.
- Update the FAW’s COMET system with coaches details and club information including entering competitions for the coming season.
Vice Chair / Parent representative– A Strategic leader and supporter. What you’ll do –
- As vice chair you will work alongside the Chairperson to steer the club’s vision and support our coaches and volunteers.
- Step in for the Chairperson when needed and help with organising meetings and our annual tournament.
- Be a contact point for parents, and a link between parents, the community and the committee.
These are important roles which we would like filled as soon as possible. We will support you and ensure that you can easily transition to be part of our friendly team.
If you are interested, please get in touch, and we’ll be glad to hear from you.
Contact –
07813 884 615