You are currently viewing Diweddariad Gêm / Game Update

Diweddariad Gêm / Game Update

  • Post category:News

Newid i’r Gêm Baratoi Gyntaf / Change to First Pre‑Season Fixture

CPD Pwllheli v CPD Porthmadog

Wedi’r newyddion annisgwyl ar ddechrau’r wythnos bod CPD Bae Cinmel wedi tynnu’n ôl o’r gêm baratoi a oedd i’w chwarae ar y Traeth nos Wener, 3ydd Gorffennaf, bu Chris Jones a swyddogion y clwb yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau nad oedd y bwlch yn y calendr yn amharu ar drefniadau’r cyfnod paratoi.

Roedd hyn yn hollbwysig i’r clwb, gyda dechrau’r tymor newydd bellach o fewn mis. Colli gêm ar ddechrau’r cyfnod paratoi fyddai wedi bod yn ergyd i’r garfan, felly roedd angen dod o hyd i wrthwynebwyr newydd yn gyflym.

🔄 Trefniadau Newydd

Yn lle gêm ar y Traeth, bydd y daith yn cymryd y tîm lawr y ffordd i Benllyn, lle byddwn yn wynebu ein cymdogion cyfarwydd, CPD Pwllheli. Mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb wedi bod yn rhai tynn, cystadleuol ac yn llawn egni — ac mae disgwyl i’r un nesaf fod yr un mor frwd.

📅 Manylion y Gêm

  • CPD Pwllheli v CPD Porthmadog
  • Dydd Sadwrn, 4ydd Gorffennaf 2026
  • Cic gyntaf: 2yp
  • Lleoliad: Y Rec, Pwllheli

Mae’r hogia wedi gweithio’n galed, ac mae’r cyfnod paratoi yn cyflymu. Bydd y gêm hon yn gyfle gwerthfawr i fesur lle’r ydym ni cyn y tymor newydd.

C’mon Port.

CPD Pwllheli v CPD Porthmadog

Following the unexpected news earlier this week that Kinmel Bay have withdrawn from Friday’s planned pre‑season opener at the Traeth (3 July), Chris Jones and club officials have been working tirelessly to put things right and secure an alternative fixture.

With the new season now less than a month away, losing a match at the very start of the preparation period would have been a major setback for the squad. Securing another game quickly was essential to keep plans on track.

🔄 New Arrangements

Instead of welcoming visitors to the Traeth, the team will now make the short trip down the road to Penllyn to face familiar neighbours CPD Pwllheli. Recent meetings between the sides have been tight, competitive affairs with plenty of intensity — and there’s every reason to expect more of the same this weekend.

📅 Match Details

  • Pwllheli v Porthmadog
  • Saturday, 4th July 2026
  • Kick-off: 2pm
  • Venue: The Rec, Pwllheli

The players have been working hard, and this fixture will provide a valuable early test as preparations for the new campaign gather pace.

C’mon Port.