You are currently viewing Ar Y Traeth: Port v Tref Rhuthun  | Y Traeth Awaits: Port v Ruthin Town | Novira Cymru North

Ar Y Traeth: Port v Tref Rhuthun | Y Traeth Awaits: Port v Ruthin Town | Novira Cymru North

  • Post category:News

Match preview: Porthmadog look to bounce back at home against Ruthin Town. Form guide, key players, Colin Caton’s Ruthin and squad updates.

Rhagolwg y gêm: Port yn ceisio ymateb yn erbyn Tref Rhuthun. Ffurf, chwaraewyr allweddol, Colin Caton a newyddion y garfan.

Mae Porthmadog yn ôl ar Y Traeth y penwythnos hwn ac yn anelu at ymateb yn gadarnhaol ar ôl rhediad heriol o ganlyniadau, gyda dim ond un gêm gyfartal o’u tair gêm ddiwethaf. Er gwaethaf dangos cymeriad gwirioneddol yn y gemau diweddar — gan gynnwys y dychweliad dramatig yn erbyn Hotspur Caergybi — bydd Port yn benderfynol o droi gwydnwch yn bwyntiau wrth i Tref Rhuthun wneud y daith i Borthmadog.

Mae Tref Rhuthun, dan reolaeth cyn-reolwr Tref y Bala Colin Caton, yn cyrraedd wedi dechrau cymysglyd yn gynnar yn y tymor, gan gasglu un fuddugoliaeth, un gêm gyfartal a pump colled o’u saith gêm agoriadol. Mae eu tymor wedi bod un anodd i ddeud y lleiaf, gyda goliau yn mynd fewn yn gyson gan ddangos amddiffyn bregus> Bydd Port yn awyddus i fanteisio ar hyn. Mae’r canlyniadau yn cynnwys gêm gyfartal 2–2 yn erbyn Cegidfa a buddugoliaeth dynn 2–1 dros Tref Dinbych, yn dangos tîm cystadleuol ond un sy’n dal i chwilio am gysondeb.

Mae gemau diweddar Port wedi dilyn patrwm cyfarwydd: cyfnodau cryf o chwarae, cyfleoedd wedi’u creu, ond eiliadau lle mae canlyniadau wedi llithro i ffwrdd. Tynnodd y gêm gyfartal 2–2 yn Holyhead sylw at ysbryd brwydro Port, gan ddod o ddau gôl i lawr ac hefyd yn methu dau gic o’r smotyn cyn sicrhau pwynt. Daeth y golled yn erbyn Tref y Bala penwythnos diwethaf â chymysgedd o emosiynau, gyda hanner cyntaf gwael yn cael ei ddilyn gan ail hanner llawer gwell. Dangosodd Port fwy o drefn, dwyster a chred ar ôl yr egwyl — arwyddion bod momentwm yn dechrau troi.

Un o’r uchafbwyntiau diweddar yw Osian Ellis, a enwyd yn Chwaraewr y Mis ar gyfer Awst ar ôl cyfres o berfformiadau egnïol a dylanwadol. Mae ei gysondeb a’i ymdrech wedi bod yn allweddol i Port, gan obeithio y bydd yn chwarae rhan bwysig unwaith eto ddydd Sadwrn.

Mae’r gêm hon yn dod â dau dîm gydag uchelgeisiau gwahanol ynghyd: Porthmadog yn anelu i symud yn ôl tuag at y safleoedd uchaf, a Tref Rhuthun yn ceisio sefydlogrwydd. Mae’n addo bod yn brynhawn cystadleuol a bywiog ar Y Traeth.

Porthmadog are back on the Traeth this weekend and aiming to respond positively after a challenging run of results, with only one draw from their last three matches. Despite showing real character in recent games — including the dramatic comeback against Holyhead Hotspur — Port will be determined to turn resilience into points as Ruthin Town make the trip to Porthmadog.

Ruthin Town, managed by former Bala Town boss Colin Caton, arrive after a mixed and difficult start to the season, having collected one win, one draw and five defeats from their opening seven matches. It has been a tough campaign to say the least, with goals being conceded regularly and a defence that has looked vulnerable. Port will be eager to take advantage of this. Their results include a 2–2 draw against Guilsfield and a narrow 2–1 win over Denbigh Town, showing a competitive side but one still searching for consistency.

Port’s recent matches have followed a familiar pattern: strong spells of play, chances created, but moments where results slipped away. The 2–2 draw at Holyhead highlighted Port’s fighting spirit, coming from two goals down and missing two penalties before earning a point. Last weekend’s defeat to Bala Town brought mixed emotions, with a poor first half followed by a much-improved second‑half performance. Port showed greater organisation, intensity, and belief after the interval — signs that momentum may be starting to turn.

One of the recent highlights has been the form of Osian Ellis, named Player of the Month for August after a series of energetic and influential performances. His consistency and work‑rate have been key for Port, and let’s hope he can play an important role again on Saturday.

This match brings together two sides with different ambitions: Porthmadog aiming to move back towards the top positions, and Ruthin Town seeking stability. It promises to be a competitive and lively afternoon at Y Traeth.

18

Ruthin Town v CPD Porthmadog – 09.03.2019 | Lluniau / Photos Andrew Page

RUTHIN TOWN…………………….. 2
Llyr Morris 51’, 70’

CPD PORTHMADOG…………….. 0

Ruthin: Ryan Gouldston, Gwydion Ifan, Dafydd Evans, Tom Dyer, Kevin Evans, Rhys Rowlands, Charlie Williams, Matthew Evans, Llyr Morris (Tom Williams 89’), Gwion Owen (Isaac Edwards 84’), Ryan Jones.

Unused subs: Matthew Davies, Craig Wilkinson

Yellow: Charlie Williams 34’, Dafydd Evans 54’

Porthmadog: Paul Pritchard, Gruff J Williams, Ceri James (Iddon Price 58’), Mike Sharples, Tomos Emlyn, Ifan Emlyn, Iwan Lewis, Ilan ap Gareth (Keiron Hilditch 68’), Julian Williams, Shaun Cavanagh, Rob Evans (Sion Parry 64’)

Unused subs: Cai Henshaw, Craig Papirnyk (gk)

Referee: Mark James (Llandudno Junction)