
CPD Penrhyncoch
Jakub Michalski (43`)
1 vs 3
CPD Porthmadog
Osian Ellis (37`)
Dylan Summers-Jones (46`)
Rhys Alun Williams (90`)
Cynghrair Novira Cymru North League
Cae Baker, Penrhyncoch
1/8/2026
Cic gyntaf. :- 2:30p.m.
CPD Porthmadog yn sicrhau 3 phwynt cyntaf o’r tymor yn Penrhyncoch
Seliodd Port fuddugoliaeth gwbl haeddiannol yn yr heulwen ar Gae Baker a hynny ar derfyn eu gêm gyntaf hir-ddisgwyliedig yn ôl yn yr ail haen. Go dda nhw!
Creodd Port ambell hanner cyfle ar ôl y 5 munud cyntaf a bu raid i Leigh Jenkins yn y gôl i`r Penrhyn ruthro tu allan o`i flwch i benio ôl-bas letchwith i rwystro Dylan Summers-Jones (DSJ) i Port. Ond, cwta munud yn ddiweddarach, testun siom i gefnogwyr Port oedd gweld Cai Griffith yn gorfod ymadael yn dilyn rhediad da ar yr asgell chwith i mewn i`r cwrt cosbi.
Wrth i`r hanner awr cyntaf nesáu, gwelodd Osian Ellis ei ergyd gref yn cael ei rhwystro gan amddiffynnwr cyn i amddiffynnwr arall orfod clirio oddi ar y llinell gôl wrth i ymosodiadau Port gynyddu. Yna wedi 32 o funudau bu raid i Leigh Jenkins arbed yn ddewr wrth draed DSJ. O diar! Pryd o pryd fyddai Port yn sgorio? Wel, ddeng munud cyn yr egwyl daeth llygedyn mawr o obaith pan ddyfarnwyd cic o`r smotyn i Hogiau’r Traeth yn dilyn trosedd ar DSJ. Camodd Gwion Dafydd i fyny at y smotyn wedi cwynion di-baid gan y tîm cartref ond llwyddodd Leigh Jenkins i arbed ei ymdrech.
Munud yn ddiweddarach, daeth ochenaid o ryddhad pan aeth Gwion Dafydd heibio`r golwr yn gelfydd. Cliriwyd ei ergyd oddi ar y llinell ond roedd y gweithgar Osian Ellis wrth law i gasglu`r briwsion gan rhoi peniad nerthol i gefn y rhwyd a hynny ar ei “début”. Hwre!
Yn sgil yr holl bwysau gan Port, diolch i`w chwarae celfydd, siom enfawr ar y pryd fu gweld y tîm cartref yn unioni`r sgôr a hynny`n groes i`w haeddiant ar 43 munud pan beniodd Jakub Michalski yn uchel i`r rhwyd yn dilyn blerwch go iawn yn y cefn. GRRRRR……OND, fe allai pethau fod wedi troi`n llawer gwaeth pan arweiniwyd gwrth-ymosod chwim gan y bytholwyrdd Geoff Kellaway ond rhoes ei ergyd dros y trawst wrth i Robbie Williams yn y gôl ruthro allan i`w herio. 1-1 ar yr hanner.
Go brin fod yr ail hanner eiliad yn hwy na munud oed pan aeth Port ar y blaen am yr eildro wrth i DSJ anwesu`r bêl heibio Jenkins o ongl dynn wedi rhediad cryf a phas gywir gan Osian Ellis. A dyna un arall yn sgorio yn ei gêm gyntaf.
Daeth Osian Ellis yn agos i ddyblu ei gyfrif yn fuan iawn wedyn wrth i`w ergyd hyfryd o du allan i`r cwrt gael ei harbed yn dda gan Jenkins ger ei bostyn a daeth Gruff John yn agos wrth roi ei beniad o gic gornel dros y trawst. Gydag ychydig mwy o lwc o flaen gôl, fe fyddai Port wedi selio`r gêm ar yr awr.
Daeth y gêm yn fwy agored ar ôl hyn ac fe lansiodd tîm trefnus Penrhyncoch rhai ymosodiadau addawol ond heb orfodi Robbie Williams i wneud yr un arbediad mewn gwirionedd er iddo orfod delio`n hyderus a chroesiad dwfn i`r postyn pellaf.
Y broblem i Port oedd sgorio`r drydedd gôl. O ble ddaw honno tybed? Wel, doedden nhw ddim yn rhy swil i ergydio am gôl a rhoes Morgan Owen (croeso`n ol!) ergyd dda fodfeddi heibio`r postyn ar derfyn rhediad gwych cyn i DSJ fod ddigon anlwcus i weld ei ymdrech yn cael ei rhwystro hyd yn oed ar ôl iddo guro Jenkins yn y gôl!! Ac yna, gyda`r cloc yn ymlwybro at 80 munud daeth cic nerthol Gwion Dafydd oddi ar waelod y postyn.
O`r diwedd, daeth y drydedd holl bwysig ar 90 munud i dorri calonnau trigolion Penrhyncoch. Rhoes Luke Baum bas dda i lwybr Rhys Alun ac er i Jenkins gael ei law i`w ergyd, dangosodd Rhys gryn weledigaeth wrth gyflawni ergyd dros ei ysgwydd (ia, ‘overhead kick’, Mrs. Jones bach) a honno`n canfod y rhwyd i gyfeiliant bloedd o ryddhad gan ein cefnogwyr ffyddlon tu ol i`r gôl.
A dyna ni. Braf cael cychwyn y tymor ar nodyn uchel, ynte?
Y Sadwrn nesaf, disgwyliwn dorf go dda ar Y Traeth wrth i ni groesawu Y Rhyl acw gyda`r gic gyntaf am 2:30.
Penrhyncoch :- Leigh Jenkins (gôl-geidwad), William Evans, Elian Evans, Rhydian Davies, Iestyn Duggan (Isaac Pridmore 70`), Geoff Kellaway (capt.), Christy Gale (Isaac Aldred 88`), Jakub Michalski, Marcus Yakou (Cai Thomas 88`), Steffan Davies (Eddie Rhodes 71`), Kieran Booker (Gethin Williams-Evans 70`)
Eilyddion heb eu defnyddio:- Gioele Geoeghegan, Joseph Saunders
Cardiau melyn:- Leigh Jenkins (62`), Iestyn Duggan (58`)
Porthmadog :- Robbie Williams (gôl-geidwad), Gruff John (Sam Thomas 76`), Cai Griffith (Sam Reynolds 11`), Josh Banks, Gruff Ellis, Sion Williams, Morgan Owen, Ryan Williams, Gwion Dafydd (Rhys Alun 83`), Osian Ellis (Luke Baum 83`), Dylan Summers-Jones (Caio Evans 76`)
Eilyddion heb eu defnyddio:- Dan Clark (gôl-geidwad), Steffan Alford
Dyfarnwr :- Rhodri Glyn Morgans
Cynorthwywyr:- Coby Aston Edward Perch, Connah Sears
Goruchwyliwr:- Gareth Lloyd
Torf:- 172
Adroddiad / Report :- Treflyn Jones
CPD Porthmadog secure first three points of the season at Penrhyncoch
Port sealed a fully deserved victory in the sunshine at Cae Baker, rounding off their long‑awaited first game back in the second tier. Fair play to them!
Port created a couple of half‑chances after the opening five minutes, and Penrhyn keeper Leigh Jenkins had to race out of his box to head away a poor back‑pass to stop Dylan Summers‑Jones (DSJ). But barely a minute later, Port fans were left disappointed as Cai Griffith was forced off following a strong run down the left into the penalty area.
As the half‑hour approached, Osian Ellis saw his powerful shot blocked by a defender before another defender had to clear off the goal line as Port’s pressure increased. Then, after 32 minutes, Jenkins had to save bravely at the feet of DSJ. You wondered when Port would finally score. Ten minutes before the break came a big moment of hope when the Traeth lads were awarded a penalty after DSJ was fouled. Gwion Dafydd stepped up amid endless complaints from the home side, but Jenkins saved his effort.
A minute later came a sigh of relief as Gwion Dafydd skilfully went past the keeper. His shot was cleared off the line, but the industrious Osian Ellis was there to pounce on the scraps, powering a header into the net on his debut. Hurrah!
Despite all Port’s classy play and pressure, huge frustration followed when the home side levelled against the run of play on 43 minutes, Michalski heading high into the net after real chaos at the back. GRRRR… and things could have been worse when the evergreen Geoff Kellaway led a sharp counter‑attack, but he fired over with Robbie Williams rushing out to challenge. 1–1 at half‑time.
The second half was barely a minute old when Port retook the lead, DSJ stroking the ball past Jenkins from a tight angle after a strong run and a precise pass from Osian Ellis. Another debut goal.
Osian Ellis almost doubled his tally soon after with a lovely strike from outside the box, Jenkins saving well at his post. Gruff John also went close, heading a corner just over. With a little more luck in front of goal, Port could have put the game to bed by the hour mark.
The game opened up after this, with organised Penrhyncoch launching some promising attacks, though they didn’t really force Robbie Williams into a save, despite him dealing confidently with a deep cross to the far post.
Port’s problem was finding the third goal. Where would it come from? They weren’t shy about shooting, with Morgan Owen (welcome back!) firing inches wide after a great run, and DSJ unlucky to see his effort blocked even after beating Jenkins. Then, as the clock ticked towards 80 minutes, Gwion Dafydd smashed a shot off the base of the post.
Finally, the all‑important third arrived on 90 minutes to break Penrhyncoch hearts. Luke Baum played a fine pass into Rhys Alun’s path and, although Jenkins got a hand to his shot, Rhys showed great awareness to execute an overhead kick (yes, an overhead kick, Mrs Jones!) which found the net to a roar of relief from the loyal Port fans behind the goal.
And that was that. A lovely way to start the season on a high.
Next Saturday, we expect a good crowd at Y Traeth as we welcome Rhyl, with kick‑off at 2:30.
Penrhyncoch: – Leigh Jenkins (gk), William Evans, Elian Evans, Rhydian Davies, Iestyn Duggan (Isaac Pridmore 70`), Geoff Kellaway (capt.), Christy Gale (Isaac Aldred 88`), Jakub Michalski, Marcus Yakou (Cai Thomas 88`), Steffan Davies (Eddie Rhodes 71`), Kieran Booker (Gethin Williams-Evans 70`)
Unused subs: – Gioele Geoeghegan, Joseph Saunders
Yellow cards: – Leigh Jenkins (62`), Iestyn Duggan (58`)
Porthmadog: – Robbie Williams (gk), Gruff John (Sam Thomas 76`), Cai Griffith (Sam Reynolds 11`), Josh Banks, Gruff Ellis, Sion Williams, Morgan Owen, Ryan Williams, Gwion Dafydd (Rhys Alun 83`), Osian Ellis (Luke Baum 83`), Dylan Summers-Jones (Caio Evans 76`)
Unused subs: – Dan Clark (gk), Steffan Alford
Referee: – Rhodri Glyn Morgans
Assistants: – Coby Aston Edward Perch, Connah Sears
Referee Observer: – Gareth Lloyd
Attendance: – 172
Report: – Treflyn Jones