
CPD Porthmadog
Morgan Owen 72′
1 vs 3
Caersws
Tom Edwards 44′
Sam Phillips 81′
Jared Marks 90+9′
28.08.2026
Cynghrair y Gogledd Novira Cymru North
Stadiwm / Venue: – Y Traeth, Porthmadog
Cic gyntaf / KO: 19:45pm
Noddwr y gêm / Match Sponsor: Tendai Mudavanhu
Noddwr y bêl / Ball Sponsor: Emrys Griffith
Noddwyr y peli am y tymor / Match-ball sponsors for the season: Blackfoil, Manchester https://www.blockfoil.com/
Goliau sy`n cyfri`! Wythnos union yn ôl yn Dinbych, bu i Port gymryd eu cyfleon tra methodd Dinbych a rhwydo crynswth eu cyfleon hwythau. Ond heno roedd yr esgid ar y droed arall.
Dechreuodd Port yn addawol a nhw oedd y tîm mwyaf bygythiol am yr ugain munud cyntaf o leiaf. Bu i ergyd isel gynnar Rhys Alun gael ei chasglu gan y golwr Max Williams a daeth cyfle arall i`r un chwaraewr ond doedd dim digon o gryfder yn ei ergyd. Cofiwch, roedd Caersws yn beryglus wrth iddynt wrth-ymosod a bu raid i golwr Port Robbie Williams fod ar ei orau i gasglu croesiad isel peryglus wrth i`r ymwelwyr ddechrau setlo.
Ar 28 munud bu raid i Max Williams ruthro allan o`i gôl i rwystro rhediad peryglus Dylan Summers-Jones a chlywyd y dorf ifanc ardderchog tu ôl y gôl yn sgrechian am benalti wrth i beniad Osian Ellis gael ei rhwystro rywsut.
Yna, o nunlle, aeth Caersws ar y blaen gyda gôl glinigol. Daliodd Ashley Jones y bêl i fyny`n dda ar ymyl y blwch cyn rowlio`r bêl i lwybr Thomas Edwards a rwydodd yn gelfydd, yn gryf ac yn isel heibio Robbie Williams yn y gôl. 0- 1.
Brwydrodd Port yn ôl wrth gwrs ac arbedodd Max Williams yn dda o ergyd bell gan Morgan Owen cyn arbed yn well fyth o beniad agos gan Rhys Alun. Ond, Caersws oedd piau hi 0-1 ar yr hanner.
Gwelsom Port yn pwyso llawer yn yr ail hanner ond yn methu sgorio oherwydd cyfuniad o ergydion gwan (braidd!) a thaclo amserol gan amddiffyn trefnus Caersws. Ond, gyda thua 19 munud yn weddill ar y cloc, daeth Port yn gyfartal a hynny`n gwbl haeddiannol wrth i groesiad cywir Darren Thomas gael ei phenio`n wych i gornel y rhwyd gan Morgan Owen. 1-1…..ond teimlai pawb fod rhagor o goliau i ddod
Roedd y gêm yn agored ac yn gyffrous dros ben erbyn hyn gydag ymosodiadau chwim ar y ddwy ochr. Roedd hi yno i`w hennill ond ….gan bwy? Wel, torrwyd calonnau ein cefnogwyr niferus a gwych ar ôl 81 o funudau ac roedd hon hefyd yn hollol clinigol wrth i Sam Phillips ryddhau ergyd nerthol isel trwy goedwig o goesau i gornel isaf y rhwyd. Perl o gôl ….os ydych yn cefnogi Caersws!!!
Daliodd Port i ymosod ond doedd hi ddim i fod a bu i Jared Marks roi`r eisin ar y gacen i`r ymwelwyr yn ddwfn i mewn i amser ychwanegol gyda pheniad penderfynol a chryf o gic gornel Sam Phillips.
Hen dro! Wel, pennau i fyny ar gyfer Dydd Llun Gwyl y Banc pan fyddwn yn teithio i Caergybi i wynebu Holyhead Hotspur gyda`r gic gyntaf am 2:30pm. Welwn ni chi yno.
Porthmadog:
Robbie Williams, Morgan Owen, Sion Williams (Luke Baum 76’), Gruff John, Gruff Ellis, Caio Evans (Ryan Williams 45’), Rhys Alun (Capt.) (Shaun Cavanagh 63’), Sam Reynolds, Darren Thomas (Josh Banks 76’), Osian Ellis (Cai Jones 63’), Dylan Summers‑Jones.
Eilyddion nas defnyddiwyd: Dan Clark (gk), Sam Thomas
Cardiau Melyn: Caio Evans (9’), Graeme Seddon (coach, 55’), Chris Jones (head coach, end of match)
Caersws:
Max Williams, Jake Humphreys, Gavin Rowlands (Tommy Rowlands 64’), Ashley Jones, Ashley Harris, George Mitten, Luca Hughes (Jared Marks 78’), Thomas Edwards, Sam Phillips, Jake Morris, Callum Francis‑Jones.
Eilyddion nas ddefnyddiwyd: Ben Preece, Samuel Lewis, Ryan Morris
Cardiau Melyn: Gavin Rowlands (45+2’), Jared Marks (90+9’)
Dyfarnwr: Tomos Huw Jones
Cynorthwywyr: Coby Aston, Edward Perch, David Griffiths
Goals that count! Exactly a week ago in Denbigh, Port took their chances while Denbigh failed to convert theirs. Tonight, the boot was firmly on the other foot.
Port started brightly and were the more threatening side for at least the first twenty minutes. A low early strike from Rhys Alun was gathered by goalkeeper Max Williams, and another chance fell to the same player, but his effort lacked power. Caersws, though, were dangerous on the counter, and Port keeper Robbie Williams had to be at his best to collect a dangerous low cross as the visitors began to settle.
On 28 minutes, Max Williams had to race off his line to stop a dangerous run from Dylan Summers‑Jones, and the excellent young crowd behind the goal screamed for a penalty as Osian Ellis’ header was somehow blocked.
Then, out of nowhere, Caersws took the lead with a clinical finish. Ashley Jones held the ball up well on the edge of the box before rolling it into the path of Thomas Edwards, who finished superbly — strong, low, and precise past Robbie Williams. 0–1.
Port fought back, of course, and Max Williams saved well from a long‑range effort by Morgan Owen before producing an even better stop from a close‑range header by Rhys Alun. But Caersws held the advantage at half‑time: 0–1.
Port pressed hard in the second half but failed to score due to a combination of weak (ish!) finishing and timely tackling from Caersws’ organised defence. With around 19 minutes left on the clock, Port deservedly levelled when a pinpoint cross from Darren Thomas was headed brilliantly into the corner by Morgan Owen. 1–1… and everyone sensed more goals were coming.
The game was now wide open and hugely exciting, with sharp attacks at both ends. It was there to be won—but by who? Sadly, for our superb and numerous supporters, hearts were broken after 81 minutes when Sam Phillips drilled a powerful low shot through a forest of legs into the bottom corner. A gem of a goal… if you support Caersws!
Port continued to attack but it wasn’t to be, and Jared Marks added the icing on the cake deep into added time with a strong, decisive header from a Sam Phillips corner.
A tough one to take! Heads up now for Bank Holiday Monday when we travel to Holyhead to face Holyhead Hotspur, kick‑off 2:30 p.m. See you there.
Porthmadog:
Robbie Williams, Morgan Owen, Sion Williams (Luke Baum 76’), Gruff John, Gruff Ellis, Caio Evans (Ryan Williams 45’), Rhys Alun (Capt.) (Shaun Cavanagh 63’), Sam Reynolds, Darren Thomas (Josh Banks 76’), Osian Ellis (Cai Jones 63’), Dylan Summers‑Jones.
Unused subs: Dan Clark (gk), Sam Thomas
Yellow cards: Caio Evans (9’), Graeme Seddon (coach, 55’), Chris Jones (head coach, end of match)
Caersws:
Max Williams, Jake Humphreys, Gavin Rowlands (Tommy Rowlands 64’), Ashley Jones, Ashley Harris, George Mitten, Luca Hughes (Jared Marks 78’), Thomas Edwards, Sam Phillips, Jake Morris, Callum Francis‑Jones.
Unused subs: Ben Preece, Samuel Lewis, Ryan Morris
Yellow cards: Gavin Rowlands (45+2’), Jared Marks (90+9’)
Referee: Tomos Huw Jones
Assistants: Coby Aston, Edward Perch, David Griffiths
Attendance: 477
















