CPD Porthmadog
Dylan Summers-Jones 17′
1 vs 0
CPD Dinas Bangor City 1876
03.10.2026
Novira Cymru North
Stadiwm / Venue: – Y Traeth, Porthmadog
Cic gyntaf / KO: 14:30pm
Noddwyr y gêm / Match Sponsors:

Noddwyr y Bêl / Ball Sponsors: Clive a William Roberts, Lincoln + Blackfoil, Manchester
Aeth sawl blwyddyn heibio ers i Port drechu Bangor ond fe lwyddwyd ar Y Traeth ar brynhawn heulog ar derfyn gêm dynn a chystadleuol ger bron torf dda.
Yn dilyn chwarter awr agoriadol digon blêr gyda`r ddau dim yn bodloni ar gicio`r bel i Wlad y Rywle, daeth y gêm yn fyw diolch i gôl dda iawn gan Dylan Summers-Jones. Daeth cic gornel i Port yn dilyn arbediad da iawn gan Josh Davies yn y gôl i Fangor o ergyd troed chwith Tom Mahoney. O`r gic gornel honno, aeth peniad da gan Cai Jones i lwybr DSJ a lwyddodd i waldio foli uchel wych i mewn i dô`r rhwyd gan guro Davies yn rhacs. 1-0 i Port.
Daeth ambell symudiad slic i`r amlwg gan y dinasyddion wedyn wrth iddynt geisio brwydro`n ôl ac roedd amddiffyn Port yn falch o weld ergyd beryglus Jack Smith yn clirio`r trawst o fodfeddi`n unig.
Yna, ychydig yn annisgwyl o fewn cyfnod o bwyso gan yr ymwelwyr, bu ond y dim i Port ddyblu eu mantais wrth i DSJ fethu cyfle euraidd. Dylan druan…..fe wnaeth bopeth yn iawn wrth iddo guro`r trap camsefyll cyn rhuthro at y gôl. Llwyddodd i fynd heibio`r golwr ac yna, gyda`r gôl yn gwenu o`i flaen, dyma dacl hynod amserol yn ei rwystro rhag tanio. Hen dro!
Yn ystod chwarter awr olaf yr hanner cyntaf, roedd rhywun yn synhwyro fod Bangor yn dod yn fwy a mwy i mewn i`r gêm gyda`r pasio slic hwnnw fu mor nodweddiadol ohonynt dros y blynyddoedd. Ond, fe arhosodd amddiffyn Port yn gadarn a bu bron i Port gael ail gôl oni bai am arbediad isel dda gan Josh Davies ar 40 munud. Gorffennodd yr hanner cyntaf felly gyda Port ar y blaen 1-0.
Yn gynnar iawn yn yr ail hanner, daeth cyfle clir i Fangor i unioni`r sgôr . Rhedodd James Barry yn glir o amddiffyn Port gan lwyddo i benio heibio Robbie Williams a oedd wedi rhuthro ato, ond, yn y broses, aeth yr ongl yn rhy dynn i`r ymosodwr gael ergyd ar y targed a rhoes gefnogwyr Port un ochenaid anferth o ryddhad.
Roedd y gêm ychydig yn fwy agored wrth i ni nesáu at yr awr ac roedd Cai Jones (Port) yn hynod anlwcus i weld ei beniad yn curo`r golwr ond yn cael ei chlirio oddi ar y llinell. Yna, ym mhen arall y cae, gwnaeth Robbie Williams arbediad campus i rwystro ergyd isel gywir wedi ei hanelu at gornel bellaf y rhwyd. Yna, cwta funud yn ddiweddarach, bu raid i Robbie arbed yn wych gyda`i droed dde wrth i Fangor gynyddu`r pwysau.
Parhaodd Port i ymosod gyda phob cyfle a daeth Tom Mahoney a Luke Baum yn agos i sgorio cyn y diwedd.
Wel, yn y diwedd, Port oedd piau hi a phleser i`r cefnogwyr ifanc yn arbennig fu gweld buddugoliaeth ardderchog a chofiadwy yn erbyn yr hen elyn. Da iawn, Port. Da iawn wir!
Bnawn Sadwrn nesaf, byddwn yn teithio i ardal Wrecsam i gwrdd a Gresffordd gyda`r gic gyntaf am 2:30. Beth amdani?
CPD Porthmadog: – Robbie Williams, Sion Williams, Cai Griffith, Morgan Owen, Gruff Ellis, Tom Mahoney (Gruff John 84`), Osian Ellis (Shaun Cavanagh 84`), Sam Reynolds, Dylan Summers-Jones (Luke Baum 62`), Cai Jones (capten), Darren Thomas (Rhys Alun 62`)
Eilyddion nas defnyddiwyd:- Dan Clark (gôl.), Gwion Dafydd, Iddon Price
Cardiau melyn:- Darren Thomas (36`), Rhys Alun (77`)
CPD Dinas Bangor City 1876: – Josh Davies, Cai Powell-Roberts (Max Purvis 82`), Isaac Goodwin (capten), Cai Owen, Guto Williams, Josh Carey, James Barry (Jack Burman 53`), Declan McManus, Tommy Creamer (Corrig McGonnigle 79`), Jack Smith, Adam Long
Eilyddion nas defnyddiwyd:- Celt Jones (gôl.), Blaine Hudson, Sam Parry
Cardiau melyn:- Declan McManus (74`), Cai Owen (80`)
Dyfarnwr: – Elwyn Rhys Parry
Cynorthwywyr: – Finley Walley, Cian Owen
Torf: – 714
Adroddiad: – Treflyn Jones
Several years had passed since Port last defeated Bangor, but they managed it at Y Traeth on a sunny afternoon at the end of a tight, competitive match in front of a strong crowd.
After a rather scrappy opening quarter of an hour, with both team’s content to hoof the ball into the Land of Somewhere, the game burst into life thanks to an excellent goal from Dylan Summers‑Jones. A corner was won by Port following a superb save by Josh Davies in the Bangor goal from Tom Mahoney’s left‑footed strike. From that corner, a fine header by Cai Jones fell perfectly for DSJ, who hammered a superb looping volley into the roof of the net, leaving Davies helpless. 1–0 to Port.
A few slick moves then emerged from the Citizens as they tried to fight back, and Port’s defence were relieved to see Jack Smith’s dangerous effort evade the crossbar by mere inches.
Then, somewhat unexpectedly during a spell of pressure from the visitors, Port came within a whisker of doubling their lead when DSJ missed a golden chance. Poor Dylan… he did everything right, beating the offside trap and racing through on goal. He rounded the keeper and, with the goal smiling at him, an incredibly well‑timed tackle denied him the finish. What a twist.
During the final quarter of the first half, you could sense Bangor growing more and more into the game with that slick passing that has been so characteristic of them over the years. But Port’s defence stood firm, and Port almost grabbed a second goal but for a low save by Josh Davies on 40 minutes. The first half ended with Port leading 1–0.
Very early in the second half, Bangor had a clear chance to level. James Barry broke free of the Port defence and managed to head past Robbie Williams, who had rushed out to meet him, but in doing so the angle became too tight for the attacker to get a shot on target, giving Port supporters a huge sigh of relief.
The game became a little more open as we approached the hour mark, and Cai Jones (Port) was extremely unlucky to see his header beat the keeper but be cleared off the line. Then, at the other end, Robbie Williams produced a superb save to deny a precise low shot aimed at the far corner. A minute later, Robbie again had to save brilliantly with his right foot as Bangor increased the pressure.
Port continued to attack whenever possible, with Tom Mahoney and Luke Baum both going close before the end.
In the end, Port were deserved winners, and it was a particular delight for the young supporters to witness such an excellent and memorable victory against the old enemy. Well done, Port. Very well done indeed.
Next Saturday, we travel to the Wrexham area to face Gresford, with kick‑off at 2:30. How about it?
CPD Porthmadog: Robbie Williams, Sion Williams, Cai Griffith, Morgan Owen, Gruff Ellis, Tom Mahoney (Gruff John 84’), Osian Ellis (Shaun Cavanagh 84’), Sam Reynolds, Dylan Summers‑Jones (Luke Baum 62’), Cai Jones (captain), Darren Thomas (Rhys Alun 62’)
Unused substitutes: Dan Clark (gk), Gwion Dafydd, Iddon Price
Yellow cards: Darren Thomas (36’), Rhys Alun (77’)
CPD Dinas Bangor City 1876: Josh Davies, Cai Powell‑Roberts (Max Purvis 82’), Isaac Goodwin (captain), Cai Owen, Guto Williams, Josh Carey, James Barry (Jack Burman 53’), Declan McManus, Tommy Creamer (Corrig McGonnigle 79’), Jack Smith, Adam Long
Unused substitutes: Celt Jones (gk), Blaine Hudson, Sam Parry
Yellow cards: Declan McManus (74’), Cai Owen (80’)
Referee: Elwyn Rhys Parry
Assistants: Finley Walley, Cian Owen
Attendance: 714
Report: Treflyn Jones