
CPD Porthmadog
Osian Evans ( 42`pen / 90+2`)
Danny Brookwell (80`)
3 vs 0
Knighton Town
Cynghrair Lock Stock Gogledd Orllewin / North West League
Coedlan y Parc / Park Avenue @ 7:30 p.m. 26/05/2026
CPD Porthmadog yn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair y Gogledd
Ar derfyn gornest dynn a chystadleuol, enillodd Port yr hawl i gystadlu yn Haen 2 y tymor nesaf. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. Doedd hi ddim yn hawdd o bell ffordd yn erbyn tîm cryf a disgybledig Trefyclo ond roedd Port yn benderfynol ac fe gofir y gêm yn fwyaf arbennig am goliau ardderchog gan Danny Brookwell ac Osian Evans yn yr ail hanner.
Cymerodd y ddau dîm eu hamser i setlo mewn gêm mor dyngedfennol ar y cae 3-G a bu raid disgwyl 10 munud am yr hanner cyfle cyntaf wrth i Rhys Alun gweithgar gynnig ergyd dda ychydig fodfeddi dros y trawst, a, munud yn ddiweddarach, bu i`r un chwaraewr saethu yn syth i ddwylo diogel y golwr, Benjamin Davies yn dilyn gwaith da gan Osian Evans.
Daeth tro Trefyclo i fygwth yn syth wedyn wrth iddynt orfodi arbediad dda gyda`i droed gan Josh Cooke a bu raid i Ben Davies arbed yn dda ar y llawr yn dilyn cic rydd dda gan Rhys Alun.
Daeth dipyn o drobwynt yn y gêm toc wedi`r hanner awr wrth i Trefyclo lansio dau ymosodiad peryglus iawn a hwythau`n anlwcus braidd i beidio a sgorio. Disgynnodd gyfle clir iawn i ran Taylor Wozencraft wrth iddo ergydio o ddeg llath gyda ddim ond y golwr i`w guro ond rywsut aeth ei ergyd heibio`r postyn i ocheneidiau o ryddhad gan gefnogwyr Port. Yna, bu raid i Cooke fod ar ei orau i ddyrnu ergyd hyfryd Ryan Jones dros y trawst. O`r gic gornel, daeth hanner cyfle arall ond llwyddodd amddiffyn Port i glirio`r bêl i ddiogelwch. O, Trefyclo druan! Bydd yn edifar ganddoch fethu`r cyfleon hyn.
Wel, parhaodd Port i guro ar y drws ym mhen arall y cae ble roedd hogia`r ffin yn uned amddiffynnol gryf iawn. Ond ar 42 munud, torrodd Rhys Alun i mewn i`r blwch cosbi cyn cael ei faglu……CIC O`R SMOTYN! Camodd Osian Evans ymlaen yn hyderus cyn taro ergyd nerthol i gornel y rhwyd a dyna hi…..1-0 i Port. Gorfoledd di-gymysg a hynny flewyn cyn yr egwyl. Ond roedd rhagor i ddod wrth i Rhys goroni rhediad ardderchog gydag ergyd dda a ddaeth ag arbediad well fyth gan Ben Davies.
Yn yr ail hanner, roedd Port yn griw mwy hyderus ac anturus a braf fu gweld rhediadau cryf i lawr yr esgyll gan y cefnwyr heini Sion Williams a Cai Griffith. Ar derfyn rhediad o`r fath gan Cai Griffith, bu raid i Davies arbed yn dda eto i rwystro ergyd grasboeth gan Cai Jones. Ia, Port oedd piau hi erbyn hyn ac aeth chwarae Trefyclo yn fratiog braidd o dan yr holl bwysau wrth iddynt ddibynnu`n ormodol, o bosibl, ar beli hir. Parhaodd Port i bwyso`n gyson ond roedd yr ail gôl yn gyndyn o ddod.
O`r diwedd, gydag 80 munud ar y cloc, fe ddaeth yr ail. Am gôl! Er yn sylweddol tu allan i`r cwrt cosbi, gwelodd yr eilydd Danny Brookwell ei gyfle wrth iddo roi taran o ergyd ym mhell o gyrraedd Davies yn y gôl gan roi cychwyn i ddathliadau gwallgof gan y cefnogwyr yn Eisteddle Dias. Roedd hi`n gôl tu draw i ansoddeiriau ond efallai y bydd “blydi grêt” yn ddigonol am y tro.
I goroni`r cyfan, roedd ail gôl Osian cystal bob tamaid. Gôl unigol syfrdanol oedd hon wrth iddo wibio heibio dau amddiffynnwr cyn gosod y bêl yn gelfydd heibio Davies.
A dyna hi. Mawr ddiolch i Trefyclo am eu cymeradwyaeth hael i Port ar derfyn y gêm wrth i Port godi`r cwpan. Canmoliaeth uchel hefyd i gefnogwyr Port wrth iddynt greu awyrgylch drydanol gyda`u canu di-baid. Biti gweld niferoedd cymharol bitw (352) i weld gêm mor bwysig. Rhowch hi ymlaen ar bnawn Sadwrn tro nesaf.
Am y tro. Da iawn PAWB yng nghlwb balch Porthmadog a phob lwc yn Haen 2. Daliwch ati!
Porthmadog:- Josh Cooke, Sion Williams (Jack Rimmer 81`), Cai Griffith (Steffan Alford 86`), Gruff John, Griff Ellis, Caio Evans (Zak Pike 86`), Rhys Alun Williams (Josh Banks 81`), Ryan Williams, Osian Evans, Cai Jones, Sam Reynolds (Danny Brookwell 61`)
Cerdyn melyn:- Cai Jones (65`)
Eilydd heb ei ddefnyddio:- Dan Clark (gôl-geidwad)
Trefyclo:- Benjamin Davies, Will Evans, Ryan Jones, Shane Sutton, Adam Worton, Callum Stead, Samuel Hoyle (Jack Davies 90+3`), Luke Boundford, Kieran Dovey, Taylor Wozencraft (N/A 69`), Adam Farmer.
Cardiau melyn:- Shane Sutton (15`), Adam Worton (40`)
Eilyddion eraill:- Liam Griffiths, Jack Bright, William Shaw, Jack Francis, Jack Brindley.
Dyfarnwr:- Nathan Bowker
Cynorthwywyr:- Owain Pryce, Isaac Hughes
Torf:- 352
Adroddiad: – Treflyn Jones
CPD Porthmadog secure promotion to the Cymru North
At the end of a tight and competitive contest, Port secured the right to compete in Tier 2 next season. Huge congratulations to them. It was far from easy against a strong and disciplined Knighton side, but Port were determined, and the match will be remembered especially for superb second-half goals from Danny Brookwell and Osian Evans.
Both teams took their time to settle in such a decisive match on the 3G surface, and it took 10 minutes for the first half-chance, when the lively Rhys Alun fired just inches over the bar. A minute later, the same player shot straight into the safe hands of goalkeeper Benjamin Davies after good work by Osian Evans.
Knighton threatened immediately afterwards, forcing a good save with his foot from Josh Cooke, and Ben Davies had to save well on the ground from a fine free kick by Rhys Alun.
A turning point arrived just after the half-hour mark when Knighton launched two very dangerous attacks and were unlucky not to score. A clear chance fell to Taylor Wozencraft as he struck from ten yards with only the keeper to beat, but somehow his effort went past the post to sighs of relief from the Port supporters. Then Cooke had to be at his best to tip a lovely strike from Ryan Jones over the bar. From the resulting corner came another half-chance, but Port’s defence managed to clear to safety. Poor Knighton – they will regret missing those opportunities.
Port continued knocking on the door at the other end, where the border lads formed a very strong defensive unit. But on 42 minutes, Rhys Alun broke into the penalty area before being tripped… PENALTY! Osian Evans stepped up confidently and drove a powerful shot into the corner of the net. 1–0 to Port, and pure joy just before the break. And there was more to come, as Rhys capped a superb run with a good shot that brought an even better save from Ben Davies.
In the second half, Port looked more confident and adventurous, with strong runs down the wings from the energetic full-backs Sion Williams and Cai Griffith. After one such run from Cai Griffith, Davies again had to save well to deny a fierce strike from Cai Jones. Port were on top now, and Knighton’s play became a little ragged under the pressure, relying perhaps too much on long balls. Port kept pushing, but the second goal was stubbornly elusive.
At last, with 80 minutes on the clock, the second arrived – and what a goal! Well outside the penalty area, substitute Danny Brookwell spotted his chance and unleashed a thunderbolt far beyond Davies’ reach, sparking wild celebrations among the supporters in the Dias Stand. It was a goal beyond description – though “bloody great” might do for now.
To crown it all, Osian’s second goal was every bit as good. A stunning solo effort as he sped past two defenders before placing the ball skilfully beyond Davies.
And that was that. Sincere thanks to Knighton for their generous sportsmanship at the end as Port lifted the cup. High praise too for the Port supporters, who created an electric atmosphere with their constant singing. A pity to see a relatively small crowd (352) for such an important match. Let’s have it on a Saturday afternoon next time.
For now – well done EVERYONE at the proud club of Porthmadog, and best of luck in Tier 2. Keep it going!
Porthmadog:- Josh Cooke, Sion Williams (Jack Rimmer 81`), Cai Griffith (Steffan Alford 86`), Gruff John, Griff Ellis, Caio Evans (Zak Pike 86`), Rhys Alun Williams (Josh Banks 81`), Ryan Williams, Osian Evans, Cai Jones, Sam Reynolds (Danny Brookwell 61`)
Yellow card: Cai Jones (65’) Unused sub: Dan Clark (gk)
Knighton Town:- Benjamin Davies, Will Evans, Ryan Jones, Shane Sutton, Adam Worton, Callum Stead, Samuel Hoyle (Jack Davies 90+3`), Luke Boundford, Kieran Dovey, Taylor Wozencraft (N/A 69`), Adam Farmer.
Yellow cards: Shane Sutton (15’), Adam Worton (40’)
Unused subs: Liam Griffiths, Jack Bright, William Shaw, Jack Francis, Jack Brindley
Referee: Nathan Bowker Assistants: Owain Pryce, Isaac Hughes
Attendance: 352
Report: Treflyn Jones



Lluniau gan / Photos by eadophoto
Copyright / Hawlfraint @eadophoto + FAW