You are currently viewing CPD Porthmadog vs Ruthin Town | Adroddiad Gêm / Match Report

CPD Porthmadog vs Ruthin Town | Adroddiad Gêm / Match Report

CPD Porthmadog

Cai Jones 27′

Luke Baum 61’+ 64′

3 vs 0

Bala Town


12.09.2026

Cynghrair y Gogledd Novira Cymru North
Stadiwm / Venue: – Y Traeth, Porthmadog
Cic gyntaf / KO: 14:30pm

Noddwyr y gêm / Game Sponsors: Belyn Financial Services Ltd

Noddwyr y bêl / Ball Sponsors: Eddie Blackburn + Blackfoil.

Doedd hi ddim yn hawdd ond sicrhaodd Port fuddugoliaeth haeddiannol yn erbyn tîm cystadleuol Tref Rhuthun ar brynhawn gwlyb ar Y Traeth.

Bu`r munudau cychwynnol yn rhai digon tawel a di-nod ond bu i Rhys Alun benio dros y trawst ar ôl deng munud o groesiad dwfn Osian Ellis a bu raid i`r dorf aros tan 25 munud cyn i Tref Rhuthun roi cynnig da tuag at y targed wrth i Ethan Davies grafu`r trawst gydag ergyd o 25 llath.

Ychydig yn ddiweddarach, cafodd ergyd dda gan Osian Ellis ei harbed yn ardderchog i`w chwith gan Ryan Goldston yn y gôl i Tref Rhuthun ac o`r gic gornel a ddilynodd, llwyddodd Port i sgorio gôl gyntaf y prynhawn. Roedd Osian Ellis yn y potes unwaith eto wrth i`w gic gornel o`r dde ganfod pen y capten Cai Jones a bu i`w beniad nerthol ganfod cefn y rhwyd gydag ychydig gymorth gan waelod y trawst. Port ar y blaen 1-0.

Bu gweddill yr hanner yn tipyn o frwydr yng nghanol cae er mai Port oedd yn edrych fel y tîm peryclaf o`r ddau gyda Luke Baum, Osian Ellis a Rhys Alun yn gwneud sawl rhediad peryglus a phwrpasol ond fe arhosodd y sgôr ar 1-0 i Port ar yr hanner.

Daeth ambell hanner cyfle i ran y ddau dim ar ddechrau`r ail gyfnod ac fe lwyddodd Port i ddyblu eu mantais ar yr awr. Gwelwyd sialens milain ar Morgan Owen ond penderfynodd y dyfarnwr Aled Rhys Williams chwarae`r rheol fantais. Gwnaeth Port yn dda iawn i ryddhau Luke Baum o fewn y cwrt ac, er gwaethaf ongl go dynn, ergydiodd Luke i gornel y rhwyd gan rhoi cychwyn i ddathliadau llawen tu ôl i`r gôl. Yna, bu Luke yn anlwcus i beidio sgorio eto wrth i`w ergyd o agos gael ei harbed yn ddewr gan Goldston.

Ond…..cwta ddau funud yn ddiweddarach, cafodd Luke ei haeddiant. Mae`n rhaid dweud fod Tom Mahoney wedi cael gêm ardderchog a llwyddodd i redeg yn gryf i lawr yr asgell chwith cyn rhyddhau Luke Baum gyda phas fendigedig tu ôl i`r amddiffyn. Carlamodd Luke tuag at Goldston gan ddawnsio heibio`r golwr a chosi`r bêl i mewn i`r rhwyd wag i`w gwneud yn 3-0 a rhoi mynydd i`w ddringo i Tref Rhuthun druan.

Bu i Tref Rhuthun saernïo sawl symudiad addawol ond roedd amddiffyn Port yn gadarn ac ni fu raid i Robbie Williams wneud gwir arbediad drwy`r prynhawn er iddo orfod bod yn effro i rwystro ambell groesiad peryglus.

Port aeth a hi felly ……tair gôl a thri phwynt. Fedr neb gwyno. Llongyfarchiadau i`r tîm i gyd.

Sadwrn nesaf, byddwn yn teithio am yr eildro y tymor hwn i Penrhyncoch ar gyfer ein gornest gyntaf yng Nghwpan Cymru. Nodwch mai am 2 o`r gloch y bydd y gic gyntaf. Dewch yn llu!

Porthmadog: – Robbie Williams (gôl), Morgan Owen, Josh Banks (Cai Griffith 78`), Sam Thomas, Gruff Ellis, Tom Mahoney, Rhys Alun Williams (Darren Thomas 67`), Sam Reynolds, Luke Baum (Dylan Summers-Jones 73`), Cai Jones (capt.) (Gwion Dafydd 67`), Osian Ellis (Sion Williams 73`)

Eilydd na ddefnyddiwyd:- Meilir Ellis (gôl)

Tref Rhuthun :- Daniel Goldston, Dan Cox, James Smith, Ethan Davies, Jack Waterhouse (Nathan Lloyd 65`), Dave Forbes (Noah Sumner 65`), Mitchell Williams (A. Kabir 78`), Tom Weyman, Thomas Mann, N.A. (Arthur Hancock 80`), Luka Graham.

Eilyddion nas defnyddiwyd: – Harley Salisbury-Williams (gôl), N.A.

Dyfarnwr:- Aled Rhys Williams  

Cynorthwywyr:- Chimezirim Iwueke, David Griffiths

Torf:- 319

Adroddiad :- Treflyn Jones

It wasn’t easy, but Port secured a deserved victory against a competitive Ruthin Town side on a wet afternoon at Y Traeth.

The opening minutes were quiet and uneventful, though after ten minutes Rhys Alun headed over the bar from a deep cross by Osian Ellis. The crowd then had to wait until the 25th minute for Ruthin Town to register a meaningful effort on target, when Ethan Davies scraped the crossbar with a 25‑yard strike.

A little later, a good effort from Osian Ellis was superbly saved to his left by Ruthin Town keeper Ryan Goldston, and from the resulting corner Port managed to score the first goal of the afternoon. Osian Ellis was involved again, his corner from the right finding the head of captain Cai Jones, whose powerful header found the net with a little help from the underside of the bar. Port ahead, 1–0.

The remainder of the half was a bit of a battle in midfield, though Port looked the more dangerous side, with Luke Baum, Osian Ellis and Rhys Alun making several purposeful and threatening runs. The score remained 1–0 to Port at the break.

Half‑chances came for both sides early in the second half, and Port doubled their lead on the hour mark. Morgan Owen was on the receiving end of a heavy challenge, but referee Aled Rhys Williams decided to play the advantage. Port worked the ball well to release Luke Baum inside the box and, despite the tight angle, Luke fired into the corner of the net to spark joyful celebrations behind the goal. Moments later he was unlucky not to score again, his close‑range effort bravely saved by Goldston.

But just two minutes later, Luke got his reward. It must be said that Tom Mahoney had an excellent game, and after a strong run down the left he released Luke Baum with a superb pass behind the defence. Luke raced towards Goldston, danced past the keeper, and rolled the ball into the empty net to make it 3–0, leaving Ruthin Town with a mountain to climb.

Ruthin Town constructed several promising moves, but Port’s defence was solid and Robbie Williams didn’t have to make a genuine save all afternoon, though he did have to stay alert to deal with a few dangerous crosses.

So, Port took the win — three goals and three points. No complaints. Congratulations to the whole team.

Next Saturday, we travel for the second time this season to Penrhyncoch for our first tie in the Welsh Cup. Please note that kick‑off is at 2 o’clock. Come in numbers!

Porthmadog: Robbie Williams (GK), Morgan Owen, Josh Banks (Cai Griffith 78’), Sam Thomas, Gruff Ellis, Tom Mahoney, Rhys Alun Williams (Darren Thomas 67’), Sam Reynolds, Luke Baum (Dylan Summers‑Jones 73’), Cai Jones (Capt.) (Gwion Dafydd 67’), Osian Ellis (Sion Williams 73’) Unused substitute: Meilir Ellis (GK)

Ruthin: Daniel Goldston, Dan Cox, James Smith, Ethan Davies, Jack Waterhouse (Nathan Lloyd 65’), Dave Forbes (Noah Sumner 65’), Mitchell Williams (A. Kabir 78’), Tom Weyman, Thomas Mann, N.A. (Arthur Hancock 80’), Luka Graham Unused substitutes: Harley Salisbury‑Williams (GK), N.A.

Referee: Aled Rhys Williams

Assistants: Chimezirim Iwueke, David Griffiths

Attendance: 319

Report: Treflyn Jones