You are currently viewing Gemau paratoi / Pre-season games

Gemau paratoi / Pre-season games

  • Post category:News

Wrth i’r haul fachlud ar dymor arall, ac i’r atgofion o’r llwyddiannau wrth esgyn o Gynghrair Ardal y Gogledd ddechrau pylu, mae’n amser troi ein sylw at y gemau paratoi sydd eisoes wedi’u trefnu ar gyfer mis Gorffennaf. Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys cyfuniad o heriau cadarn ac ymweliadau cyffrous, gan roi cyfle i ni fesur lle’r ydym ni wrth baratoi ar gyfer tymor cyntaf y clwb yn ôl yn y Cymru North.

Bydd pob gêm yn brawf go iawn, ond hefyd yn gyfle i Chris Jones a’i dîm rheoli asesu’r garfan o’r tymor diwethaf, gweld ble mae’r cryfderau, a nodi’r mannau i’w hatgyfnerthu er mwyn gwneud argraff yn y gynghrair newydd.

Gemau paratoi oddi cartref – mae newid yn chenj!

Mae’n braf gweld fod y clwb wedi llwyddo i sicrhau nifer o gemau oddi cartref eleni. Yn aml dros y blynyddoedd, mae llawer o’r gemau paratoi wedi’u cynnal ar Y Traeth, yn aml fel arwydd o barch i gyflwr y cae a’r cyfleusterau.

Eleni, bydd cyfle i’r cefnogwyr deithio:

  • CPD Nefyn Unedig (Cae’r Delyn – 11/7/2026 – 14.30yp) – cyfarfod eto ar ôl eu buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn y Tlws Amatur. Mae Nefyn bellach wedi sicrhau dyrchafiad i Haen 3 wedi tymor llwyddiannus llynedd.
  • Menai Bridge Tigers (Treborth – 15/7/2026 – 19.30yh) – cyfle gwerthfawr i gael chwarae ar gae 4G, gan fod yna dimau yn Haen 2 yn defnyddio caeau tebyg.
  • Penmaenmawr Phoenix (Cae Sling – 18/7/2026 – 14:30yp) – dychweliad ar ôl ymweliad yn gynharach eleni yn Haen 3.

Gemau cartref ar Y Traeth

Bydd y rhaglen yn agor gyda gêm yn erbyn Kinmel Bay ar nos Wener, 3ydd Gorffennaf am 19:30yh yn erbyn tîm sydd wedi sicrhau dyrchafiad i Haen 3 y tymor yma.

I gloi’r rhaglen ar 25 Gorffennaf am 14:30yp ac wythnos cyn i’r tymor newydd gychwyn, bydd Burscough FC o Ogledd-Orllewin Lloegr yn ymweld â’r Traeth. Maent yn cystadlu yn NWCFL Premier League ac orffennon nhw yn y 10fed safle y tymor diwethaf.

Dewch i gefnogi’r hogia

Mae’r hogia wedi haeddu pob cefnogaeth ar ôl gorchestion y tymor diwethaf. Cofiwch ddod lawr i’r Traeth neu ymuno â ni ar y daith.


Pre‑Season Fixtures – Summer 2026

As the sun sets on another season, and the memories of our successful rise from the Ardal North Area League begin to fade, it’s time to turn our attention to the pre‑season fixtures arranged for July. This year’s schedule offers a mix of strong tests and exciting trips, giving us a chance to measure where we stand as we prepare for our return to the Cymru North.

Every match will be a genuine test, but also an opportunity for Chris Jones and his management team to assess last season’s squad, identify strengths, and pinpoint areas that may need reinforcing ahead of the new league campaign.

Away fixtures – a welcome change

It’s pleasing to see the club secure several away fixtures this year. Over the years, many pre‑season games have been held at Y Traeth, often as a mark of respect for the pitch and facilities.

This year, supporters will have the chance to travel:

  • Nefyn United (Cae’r Delyn – 11/7/2026 – 14.30pm) – a reunion after last season’s Amateur Trophy win on penalties. Nefyn have since earned promotion to Tier 3.
  • Menai Bridge Tigers (Treborth – 15/7/2026 – 19.30pm) – A valuable opportunity to play on a 4G surface, especially with some Tier 2 clubs using similar pitches.
  • Penmaenmawr Phoenix (Cae Sling – 18/7/2026 – 14.30pm) – a return after our visit earlier this year in Tier 3.

Home fixtures at Y Traeth

The schedule opens on Friday, 3rd July at 19:30pm with Kinmel Bay, one of last season’s promoted sides into Tier 3.

To close the programme, Burscough FC from the North‑West of England will visit Y Traeth on 25th July at 14:30pm – a week prior to the start of the new season. They compete in the NWCFL Premier League, finishing 10th last season.

Come and support the team

The players fully deserve your support after last season’s achievements. Join us at Y Traeth or on the road.