Cynghrair Ardal y Gogledd Orllewin / Ardal North West League
Yn dilyn Sadwrn o draed i fyny, bydd Port yn dychwelyd i’r rás wrth ymweld á Cae Seilo i chwarae’r tím sydd yn 14eg yn y tabl a bydd y gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Wrth edrych ‘mlaen mae yna ddau beth sy’n gwneud y gém hon yn anoddach na fydd golwg sydyn ar y tabl yn awgrymu. Yn y lle cynta’ mae’r Felin unwaith eto mewn brwydr i aros yn yr ANW ac i lwyddo bydd y clwb yn dibynnu’n drwm ar gemau cartref i gasglu’r pwyntiau fydd angen. Yn ail mae Cae Seilo a’i lethr yn medru bod yn broblem i ymwelwyr.
Yn gwerth ei nodi ydy record ddiweddar Felin, yn colli ond unwaith yn eu 7 gêm ddiwetha’ a’r canlyniadau yn cynnwys buddugoliaeth o 5-1 oddi cartref yn Prestatyn a cweir 5-2 i Llai mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair, cyn rhannu’r pwyntiau gyda NFA.
Roedd cychwyn y rhediad yn cydfynd â dychweliad dros dro Caio Hughes o’r ‘Merica. Chwaraeodd Caio am gyfnod byr gyda Port yn 2023. Bydd angen i’r amddiffyn gadw llygad ar y blaenwr ifanc Byron Davis sydd yn 3ydd yn rhestrsgorwyr yr ANW a, hyd yma, â chyfanswm o 14 gôl gynghrair.
Ers yr hyn a ddigwyddodd yn Llannefydd y Sadwrn diwetha’, agorodd drws y bencampwriaeth rhyw fymryn ym mhellach a bydd fwy eto o rheswm i Port gadw’r pwysau ar y brig a cynnal eu record diguro o 5 buddugoliaeth yn y 6 gêm ddiwetha’
Gyda un llygad ar y Swyddfa Dywydd cawn edrych ymlaen ar ddychwelyd i’r frwydr. C’mon Port

Osian Evans gyda’r bél ar ôl sgorio tair gôl yn erbyn Bethesda Athletic
Osian with the match ball after his hat-trick against Bethesda Athletic (31.01.2026)
Llun/Picture: TeleduPortTv