Cynghrair Ardal y Gogledd
Cae Llan, Llannefydd – 2/5/2026 – 2:30pm
Bydd CPD Porthmadog yn teithio i wynebu CPD Llannefydd y penwythnos hwn gan wybod bod eu lle yn gêm ail‑gyfle Cynghrair Ardal y Gogledd eisoes wedi’i sicrhau. Ar ôl cadarnhau’r ail safle yn y tabl drwy drechu Mynydd Isa, gall Port fynd i’r gêm olaf gyda hyder, tra’n parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gynnal momentwm cyn y gêm sydd i ddod.
Fodd bynnag, bydd Llannefydd yn cynnig gwrthwynebiad cryf. Bydd y tîm cartref yn anelu at orffen y tymor mor uchel â phosibl ar ôl ymgyrch drawiadol sydd wedi’u gweld yn ennill ddeuddeg gêm yn olynnol ond Llanrwst yn cael buddugoliaeth yn eu herbyn nos Fercher diwethaf o 2-0 i ddod a’r rhediad hir yma i ben. Hyd at benwythnos diwethaf, roedd Llannefydd yn dal i fod yn y ras am le yn y gemau ail‑gyfle, gan dynnu sylw at yr ansawdd a’r cysondeb maent wedi’u dangos yn ystod yr wythnosau diwethaf.
I Borthmadog, mae’r gêm hon yn gyfle i hogi safonau perfformiad a chynnal rhythm cystadleuol wrth fynd i mewn i’r gêm ail‑gyfle. Bydd y rheolwyr yn chwilio am berfformiad disgybledig a phroffesiynol, wedi’i adeiladu ar yr un gwaith caled, trefn a phenderfyniad sydd wedi dod â llwyddiant drwy gydol y tymor.
Mae record gref Llannefydd ar dir cartref a’u rhediad diweddar o ganlyniadau yn golygu y gall Port ddisgwyl her anodd, gyda dwyster uchel ledled y cae. Bydd cyfateb yr egni hwnnw, tra’n parhau’n dawel ac yn bwyllog ar y bêl, yn allweddol.
Cafwyd gêm agos iawn ar y Traeth yn ystod Hydref 2025 gyda ond un gôl yn gwahaniaethu’r ddau dîm ar y prynhawn hwnnw – Danny Brookwell rwydodd y gôl fuddugol yr adeg hynny.
Gyda’r ddwy ochr wedi’u cymell am resymau gwahanol, mae’r llwyfan wedi’i osod ar gyfer gêm gystadleuol a difyr wrth i Borthmadog edrych i orffen y rhaglen gynghrair yn gryf a chario momentwm cadarnhaol i’r gemau ail‑gyfle.
Dewch ymlaen, y Port!
Matchday Preview | CPD Llannefydd vs CPD Porthmadog
Ardal Northern League
CPD Porthmadog will travel to face CPD Llannefydd this weekend knowing their place in the Ardal Northern League play‑off has already been secured. After confirming second position in the table with victory over Mynydd Isa, Port can approach the final fixture with confidence, while remaining fully focused on maintaining momentum ahead of the play‑off match to come.
However, Llannefydd will provide strong opposition. The home side will be aiming to finish the season as high as possible after an impressive campaign that had seen them go twelve games unbeaten. This run came to an end on Wednesday night as Llanrwst ran out winners by 2-0. Until last weekend, Llannefydd were very much in the race for a place in the play‑offs themselves, highlighting the quality and consistency they have shown in recent weeks.
For Porthmadog, this match represents an opportunity to sharpen performance levels and maintain competitive rhythm going into the play‑off. The management will be looking for a disciplined and professional display, built on the same hard work, organisation, and determination that has delivered success throughout the season.
Llannefydd’s strong home record and recent run of results mean Port can expect a tough challenge, with high intensity across the pitch. Matching that energy while remaining calm and composed in possession will be key.
A very close game was played at the Traeth in October 2025, with just one goal separating the two sides on that afternoon – Danny Brookwell scoring the winning goal on that occasion.
With both sides motivated for different reasons, the stage is set for an entertaining and competitive contest as Porthmadog look to finish the league programme strongly and carry positive momentum into the play‑offs.
Come on the Port!

Shaun Cavanagh yn chwilio am gôl / Shaun Cavanagh looking for a goal