Am yr ail gêm yn olynol ar y Traeth, sgoriodd Osian Evans hat‑tric wrth i Port sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 6–0 yn erbyn Dinas Llanelwy. Doedd y goliau ddim yn dod yn gynnar, gyda’r dorf yn gorfod aros dros hanner awr cyn i’r bêl gyrraedd cefn y rhwyd am y tro cyntaf.
Gyda deg munud yn weddill, daeth yr ail gôl, cyn i’r drydedd gyrraedd yn ystod yr amser anafiadau — digon i sicrhau hat‑trig ardderchog. Mae’n anodd sgorio unwaith, ond i Osian daro chwe gôl mewn tair gêm yn erbyn timau cryfion mae hyn yn dystiolaeth o’i dalent, ei waith caled a’i ymrwymiad.
Mae’r chwaraewr pedair ar bymtheg oed o Glwb Pêl‑droed Caernarfon yn parhau i dyfu a datblygu — ac mae ei berfformiadau diweddar yn dangos hynny’n glir.
Dal ati, Osh!
For the second consecutive game at Y Traeth, Osian Evans scored a hat‑trick as Port secured a comfortable 6–0 victory over St Asaph City. The goals didn’t come early, with the crowd having to wait over half an hour before the ball reached the back of the net for the first time.
With around ten minutes remaining, the second goal arrived, before the third came in injury time — enough to secure an excellent hat‑trick. It’s hard enough to score once, but for Osian to score six goals in three matches against strong teams is proof of his talent, hard work, and commitment.
The nineteen‑year‑old from Caernarfon Football Club continues to grow and develop — and his recent performances clearly show that.
Keep it up, Osh!
