Port yn parhau i gryfhau wrth i’r ffenestr drosglwyddo gynhesu
Mae’n gyfnod prysur yn y ffenestr drosglwyddo wrth i chwaraewyr symud o un clwb i’r llall. Mae rhai’n chwilio am well cyfle i ennill cwpanau, eraill yn awyddus am sialens newydd, ac ambell un yn symud ymlaen gan nad ydynt yn rhan o gynlluniau’r clwb presennol — sef sefyllfa anodd i unrhyw chwaraewr, waeth pa lefel mae’n chwarae ei bêl‑droed.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl aelod o’r garfan a lwyddodd i sicrhau dyrchafiad yn y gêm ail‑gyfle yn erbyn Tref‑y‑Clawdd wedi ymrwymo i aros ar y Traeth. Mae hyn wedi rhoi craidd sefydlog i’r tîm wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd. Yn ogystal, mae rhai wynebau cyfarwydd wedi dychwelyd, gan gynnwys Tom Mahoney. Yn ychwanegol i hyn, mae’r blaenwr bywiog Gwion Dafydd, wedi ei ychwanegu i’r coch a du gan ddod a profiad a dyfnder i’r garfan.
Erbyn hyn, mae pedwar chwaraewr newydd sbon a dau yn dychwelyd wedi ymrwymo hefyd i wisgo’r crys coch a du ar gyfer y tymor sydd ar y gorwel:
• Dylan Summers-Jones
• Jac Humphreys
• Luke Baum
• Sam Thomas
• Math Jones
• Steffan Alford
Dylan Summers‑Jones
Mae Dylan Summers‑Jones yn enw adnabyddus i gefnogwyr pêl‑droed yng Ngogledd Cymru, wedi cynrychioli Hotspur Caergybi a Dinas Bangor 1876 yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddo lygad miniog am y gôl, cryfder wrth redeg at amddiffynwyr, ac mae’n adnabyddus am ei allu i greu cyfleoedd o ddim. Bydd ei bresenoldeb yn ychwanegu perygl go iawn i’r ymosodiad.
Jac Humphreys
Mae Jac Humphreys yn chwaraewr dygn yng nghanol cae, gyda thaith bêl‑droed sy’n cynnwys cyfnod yn astudio ac yn chwarae yn yr Unol Daleithiau. Dychwelodd i Gymru ddechrau’r flwyddyn, gan ymuno â Dinbych yn y Cymru North gan chwarae hyd at ddiwedd y tymor. Mae ei ddisgyblaeth, ei ymarfer corff cryf a’i ddealltwriaeth tactegol yn ei wneud yn ychwanegiad gwerthfawr i’r canol cae.
Sam Thomas
Mae Sam Thomas yn ymuno o CPD Llanrwst, lle bu’n chwarae yng nghanol cae ac yn creu argraff drwy gydol y tymor — yn enwedig yn erbyn Port yn y ddwy gêm eleni ac yn y ddwy y tymor blaenorol. Chwaraewr caled, dibynadwy ac yn barod i wneud y gwaith anodd yng nghanol y parthau cystadleuol.
Luke Baum
Daw Luke Baum o haen 4, gan ymuno o Talysarn Celts. Er ei fod yn chwaraewr ifanc, mae wedi bod yn gwneud ei farc ers sawl blwyddyn ac wedi rhwydo ambell i gôl hefyd. Mae ei egni a’i uchelgais yn ychwanegu dimensiwn newydd i’r garfan.
Math Jones
Un sydd ddim yn ddiarth i’r Traeth yw Math Jones, sy’n dychwelyd i’r clwb ar ôl cyfnod gyda Nantlle Vale. Cafodd Math anaf cas ar ddechrau’r tymor diwethaf gyda Port, gan ei gwneud hi’n anodd iddo gael rhediad cyson yn y tîm. Mae’r clwb yn falch iawn o’i weld yn ôl yn y garfan, ac mae disgwyl iddo chwarae rhan bwysig wrth i’r tymor newydd agosáu.
Steffan Alford
Un arall sy’n dychwelyd i’r clwb yw Steffan Alford. Daeth i Borthmadog yn ystod haf 2025 ar fenthyg o CPD Tref Caernarfon. Cafodd gyfnod allan o’r garfan yn dilyn anaf cynnar yn y tymor, ond fe ddychwelodd yn gryf, gan ennill lle ar y fainc a chofnodi sawl ymddangosiad wrth i’r tîm symud tuag at y gêm ail gyfle.
Mae ei allu i gadw pethau’n syml, ennill y frwydr gorfforol, a threfnu’r amddiffyn wedi gwneud argraff ar gefnogwyr y Traeth. Wrth edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod, bydd y ffyddloniaid yn gobeithio gweld llawer mwy o’r un aeddfedrwydd a pherfformiadau cadarn gan yr amddiffynnwr ifanc addawol yma.
Mae’r garfan yn cryfhau o wythnos i wythnos, ac mae’r gefnogaeth ar y Traeth yn sicr o groesawu’r chwaraewyr newydd wrth iddynt baratoi i wisgo’r coch a du. Gyda chraidd profiadol yn aros, wynebau cyfarwydd yn dychwelyd, a thalent newydd yn ymuno, mae’r clwb mewn sefyllfa gadarn wrth edrych ymlaen at heriau’r tymor sydd ar ddod.
Mae’r gwaith paratoi yn parhau tu ôl i’r llenni, ac mae cyffro gwirioneddol yn tyfu o gwmpas y Traeth. Wrth i’r tymor nesáu, mae pawb yn edrych ymlaen at weld y chwaraewyr hyn yn camu allan o dan y goleuadau, yn barod i roi eu gorau glas dros y clwb a’r gymuned.






Port continues to strengthen as the transfer window heats up
It’s a busy period in the transfer window as players move from one club to another. Some are searching for a better chance of winning trophies, others are eager for a new challenge, and a few moves on because they are no longer part of their current club’s plans — a difficult situation for any player, regardless of the level they play at.
Over recent weeks, several members of the squad who secured promotion in the play-off match against Knighton Town have committed their futures to the Traeth. This has provided a stable core for the team as preparations for the new season continue. In addition, some familiar faces have returned, including Tom Mahoney. The lively forward Gwion Dafydd has also been added to the red and black, bringing further experience and depth to the squad.
At present, four new signings and two returnees have committed to wearing the red and black shirt for the upcoming season:
• Dylan Summers-Jones
• Jac Humphreys
• Luke Baum
• Sam Thomas
• Math Jones
• Steffan Alford
Dylan Summers-Jones
Dylan Summers Jones is a well-known name to football supporters across North Wales, having represented Holyhead Hotspur and Bangor 1876 in recent years. He has a sharp eye for goal, real strength when driving at defenders, and is renowned for creating chances from nothing. His arrival adds genuine threat to the Port attack.
Jac Humphreys
Jac Humphreys is a determined midfielder whose football journey includes a spell studying and playing in the United States. He returned to Wales earlier this year, joining Denbigh Town in the Cymru North and featuring until the end of the season. His discipline, physical work rate and tactical understanding make him a valuable addition to the midfield.
Sam Thomas
Sam Thomas joins from CPD Llanrwst, where he impressed throughout the season in central midfield — particularly in matches against Port both this year and in the previous season. A tough, reliable player who is always willing to do the hard work in competitive areas of the pitch.
Luke Baum
Luke Baum arrives from Tier 4 side Talysarn Celts. Despite his youth, he has been making his mark for several years and has chipped in with important goals. His energy and ambition bring a fresh dimension to the squad.
Math Jones
A familiar face at the Traeth, Math Jones returns to the club after a spell with Nantlle Vale. Math suffered a nasty injury at the start of last season with Port, making it difficult for him to gain consistent game time. The club is delighted to welcome him back into the squad, and he is expected to play an important role as the new season approaches.
Steffan Alford
Another player returning to the club is Steffan Alford. He joined Porthmadog in the summer of 2025 on loan from Caernarfon Town. He spent a period out of the squad following an early‑season injury, but he came back strongly, earning a place on the bench and making several appearances as the team pushed towards the play‑off match.
His ability to keep things simple, win the physical battle, and organise the defence has impressed supporters at Y Traeth. Looking ahead to the coming season, the faithful will be hoping to see much more of the same maturity and solid performances from this promising young defender.
The squad is strengthening week by week, and the support at the Traeth will no doubt welcome these new additions as they prepare to pull on the red and black. With an experienced core staying, familiar faces returning, and fresh talent arriving, the club is in a strong position heading into the challenges of the season ahead.
Preparations continue behind the scenes, and there is a real sense of excitement building around the Traeth. As the season draws closer, everyone is looking forward to seeing these players step out under the lights, ready to give their all for the club and the community.