Novira Cymru North – Y Traeth, Porthmadog
Mae CPD Porthmadog yn paratoi i groesawu CPD Rhyl 1879 i’r Traeth ar gyfer un o gemau mwyaf y tymor yn y Novira Cymru North. Wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, mae’r gêm hon yn dod ar adeg bwysig i’r Port wrth iddynt geisio adeiladu ar y momentwm a grëwyd y tymor diwethaf ac yn eu gêm agoriadol yn erbyn Penrhyncoch. Mae’r ddau glwb yn rhannu hanes cyfoethog yn y gêm yng Nghymru, ac mae’r gêm yma yn addo cyffro, cystadleuaeth ar draws pob rhan o’r cae ac atmosffer cryf ar Y Traeth.
Mae’r gwaith caled dros yr haf wedi talu ar ei ganfed, gyda’r garfan yn dangos egni, cyflymder a phenderfyniad. Mae chwaraewyr fel Osian Ellis, Dylan Summers-Jones a Rhys Alun Williams wedi bod yn allweddol wrth greu perygl o flaen gôl, tra bod y strwythur tactegol newydd wedi dod â mwy o sefydlogrwydd i’r tîm. Bydd cefnogwyr yn disgwyl yr un ymrwymiad a dyfalbarhad wrth i Port geisio sicrhau canlyniad cadarn ar dir cartref.
I’r ymwelwyr, mae CPD Rhyl 1879 yn dîm profiadol sy’n adnabyddus am eu dull corfforol a thactegol. Mae ganddynt chwaraewyr sy’n gallu rheoli rhythm y gêm ac ymdopi â phwysau mewn sefyllfaoedd tynn. Byddant yn gweld y daith i’r Traeth fel cyfle i wneud datganiad clir o’u bwriadau ar gyfer gweddill y tymor, gan wybod y bydd angen perfformiad cryf i dorri trefn Port ar eu cae eu hunain.
Gyda’r ddau dîm yn awyddus i sicrhau canlyniad cadarn, mae’r gêm hon yn addo bod yn un gystadleuol iawn. Bydd Y Traeth yn barod, bydd y cefnogwyr yn barod — dyma’r amser i wneud marc.
Cyfarfodydd Cofiadwy: Port v Rhyl / Rhyl 1879
Dros y blynyddoedd yn yr Uwch-gynghrair a’r Gynghrair Undebol, mae sawl gêm gofiadwy wedi’u chwarae rhwng Port a’r Rhyl — neu Rhyl 1879 fel y gelwir erbyn hyn. Er bod canran uwch o fuddugoliaethau wedi mynd yn erbyn Port, mae yna adegau nodedig lle sicrhaodd Port y fuddugoliaeth, eiliadau sy’n rhan bwysig o hanes y clwb.
19 Ebrill 2008 – Sadwrn Goroesi
Roedd angen i Port ennill ar y Sadwrn olaf er mwyn sicrhau eu lle yn yr Uwch-gynghrair ar gyfer y tymor canlynol. Ar ôl 90 munud hynod nerfus, roedd unig gôl Richard Hughes ar yr awr yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt ac achub y clwb, gan anfon Tref Llangefni i lawr i’r ail haen.
Belle Vue, 6 Ionawr 2018 – Gêm 9 Gôl Anghredadwy
Yn gynnar yn 2018, gwelwyd un o’r gemau mwyaf cofiadwy rhwng y ddau glwb wrth i Port guro Rhyl 5–4 mewn tywydd gwyllt a stormus. Prin fydd neb yn anghofio ergyd anhygoel Sion Edwards o hanner ffordd i sicrhau’r fuddugoliaeth ar brynhawn arbennig o bêl-droed.
PORTHMADOG: Richard Harvey, Tomos Emlyn, Sion Edwards, Iddon Price (Dan Roberts 45’), Tom Taylor, Josh Banks, Gareth Jones Evans (Ifan Emlyn 72’), Iwan Lewis, Julian Williams, Joe Chaplin (Rob Evans 85’), Sion Bradley. Eilyddion: Cai Jones, Meilir Williams Cerdyn melyn: Banks 66’, Taylor 76’
RHYL: Rory Crowther, Tony Davies (Jason Jeffries 24’), James Brewerton, Sam Downey (Tom Hartley 77’), Been Collins, Alex Titchiner, Jordan Barrow, Danny Holland, Mark Connolly, Alun Webb, Stewart Carroll. Eilyddion: Luke Wilmott (gk), Aaron Pomeyie Cerdyn melyn: Connolly, Webb, Carroll
Cwpan Cymru 2025/26 – Diwedd y Rhediad
Dylid nodi hefyd y gêm yng Nghwpan Cymru y tymor diwethaf, pan drechodd Rhyl 1879, Port 2–1 ar Y Traeth, gan ddod â rhediad trawiadol y Coch a Du i ben yn yr 16 olaf o’r gystadleuaeth genedlaethol. Bydd Port yn gobeithio cywiro’r canlyniad hwn y penwythnos hwn ar dir cartref.
Novira Cymru North – Y Traeth, Porthmadog
CPD Porthmadog prepare to welcome CPD Rhyl 1879 to Y Traeth for one of the standout fixtures in the Novira Cymru North. As the season develops, this match arrives at an important moment for Port as they look to build on the momentum created last season and in their opening match at Penrhyncoch. The two clubs share a rich history within Welsh football, and this encounter promises excitement, full‑pitch competitiveness, and a strong atmosphere at Y Traeth.
The hard work put in over the summer has paid off, with the squad showing energy, pace, and determination. Players such as Osian Ellis, Dylan Summers‑Jones, and Rhys Alun Williams have been key in creating danger in front of goal, while the new tactical structure has also brought greater stability to the team. Supporters will be expecting the same commitment and resilience as Port aim to secure a positive result on home soil.
For the visitors, CPD Rhyl 1879 are an experienced side known for their physical and tactical approach. They have players capable of controlling the tempo of the game and handling pressure in tight situations. They will view the trip to Y Traeth as an opportunity to make a clear statement of intent for the remainder of the season, knowing a strong performance will be needed to disrupt Port’s organisation on their own pitch.
With both teams eager to secure a solid result, this fixture promises to be a competitive one. Y Traeth will be ready, the supporters will be ready — now is the moment to make an impact.
Memorable Meetings: Port v Rhyl / Rhyl 1879
Across the years in the Welsh Premier League and the Cymru Alliance, several memorable matches have been played between Port and Rhyl — or Rhyl 1879 as they are now known. Although a higher percentage of victories has gone against Port, there have been notable occasions where Port claimed the win, moments that now form an important part of the club’s history.
19 April 2008 – Survival Saturday
Port needed a win on the final Saturday of the season to secure their place in the Welsh Premier League for the following campaign. After 90 extremely tense minutes, a single goal from Richard Hughes on the hour was enough to earn the three points and secure late survival, sending Llangefni Town down to the second tier.
Belle Vue, 6 January 2018 – A Nine‑Goal Thriller
Early in 2018, one of the most unforgettable clashes between the sides saw Port defeat Rhyl 5–4 in wild, stormy conditions. Few will forget Sion Edwards’ incredible strike from halfway to seal the victory on an extraordinary afternoon of football.
PORTHMADOG: Richard Harvey, Tomos Emlyn, Sion Edwards, Iddon Price (Dan Roberts 45’), Tom Taylor, Josh Banks, Gareth Jones Evans (Ifan Emlyn 72’), Iwan Lewis, Julian Williams, Joe Chaplin (Rob Evans 85’), Sion Bradley. Substitutes: Cai Jones, Meilir Williams Yellow cards: Banks 66’, Taylor 76’
RHYL: Rory Crowther, Tony Davies (Jason Jeffries 24’), James Brewerton, Sam Downey (Tom Hartley 77’), Been Collins, Alex Titchiner, Jordan Barrow, Danny Holland, Mark Connolly, Alun Webb, Stewart Carroll. Substitutes: Luke Wilmott (gk), Aaron Pomeyie Yellow cards: Connolly, Webb, Carroll
Welsh Cup 2025/26 – The End of the Run
Last season’s Welsh Cup meeting must also be noted, when Rhyl 1879 defeated Port 2–1 at Y Traeth, bringing an impressive cup run to an end in the last 16 of the national competition. Port will be hoping to put that result right on home turf this weekend.