You are currently viewing Darren Thomas yn arwyddo i CPD Porthmadog | Darren Thomas signs for CPD Porthmadog

Darren Thomas yn arwyddo i CPD Porthmadog | Darren Thomas signs for CPD Porthmadog

  • Post category:News

Mae CPD Porthmadog yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ymosodwr profiadol Darren Thomas wedi arwyddo i’r clwb.

Mae Darren Thomas, sy’n cael ei adnabod yn eang ar draws pêl-droed Cymru fel Y Cofi Messi” oherwydd ei greadigrwydd, ei sgil a’i ddylanwad enfawr, yn ymuno â’r Traeth ar ôl cyfnod hir a llwyddiannus gyda CPD Tref Caernarfon Town, lle enillodd Gwpan Cymru yn 2026 ac yn gwneud dros 430 o ymddangosiadau i’r clwb.

Yn gyn-chwaraewr Porthmadog yn ystod ei yrfa gynnar, mae Darren Thomas bellach yn dychwelyd gyda phrofiad helaeth o’r Cymru Premier a’r Ewrop, gan ychwanegu arweinyddiaeth, creadigrwydd a safon profedig i’r garfan.

Dywedodd Chris Jones, rheolwr CPD Porthmadog:

“Mae Darren yn chwaraewr sydd wedi perfformio’n gyson ar y lefel uchaf. Bydd ei brofiad, ei angerdd a’i ddylanwad ar y cae yn ychwanegiad enfawr i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd yn ei gael ar y Traeth.”

Croeso yn ôl i’r Traeth, Darren

CPD Porthmadog are delighted to announce the signing of experienced attacker Darren Thomas.

Darren Thomas is widely known across Welsh football as “The Cofi Messi” for his creativity, skill, and huge influence — joins the Traeth after a long and successful spell with Caernarfon Town, where he won the Welsh Cup in 2026 and made over 430 appearances for the club.

A former Porthmadog player earlier in his career, Darren Thomas now returns with extensive Cymru Premier and European experience, bringing leadership, creativity, and proven quality to the squad.

Chris Jones, CPD Porthmadog manager said:

“Darren is a player who has consistently performed at the highest level. His experience, passion and influence on the pitch will be a massive addition for us. We’re excited to see the impact he’ll have at the Traeth.”

Welcome back to The Traeth, Darren

  • Gêm gyntaf i Porthmadog (cyn tymor) – Nefyn United 0-2 CPD Porthmadog (19.07.2011)
  • Gêm gyntaf ar y Traeth (cyn tymor) – CPD Porthmadog 7-0 Tref Caernarfon (26.07.2011)
  • Gêm gyntaf cynghrair – Tref Llangefni 1-5 CPD Porthmadog (13.08.2011)
  • Gôl gyntaf – CPD Porthmadog 4-1 Rhos Aelwyd (20.08.2011)
  • Gôl gyntaf i ffwrdd – Cegidfa 2-3 CPD Porthmadog (17.09.2011)
  • Gôl olaf adra – Porthmadog 2-4 Caersws (22.09.2012)
  • Gôl olaf i ffwrdd – Penrhyncoch 0-4 CPD Porthmadog (17.11.2012)
  • Gêm olaf i ffwrdd – Rhyl 2-2 CPD Porthmadog (01.12.2012)
  • Gêm olaf adref – CPD Porthmadog 0-2 Derwyddon Cefn Druids (12.01.2013)

  • First match for Porthmadog (pre‑season) – Nefyn United 0–2 CPD Porthmadog (19.07.2011)
  • First match at Y Traeth (pre‑season) – CPD Porthmadog 7–0 Caernarfon Town (26.07.2011)
  • First league match – Llangefni Town 1–5 CPD Porthmadog (13.08.2011)
  • First home goal – CPD Porthmadog 4–1 Rhos Aelwyd (20.08.2011)
  • First away goal – Guilsfield 2–3 CPD Porthmadog (17.09.2011)
  • Last home goal – CPD Porthmadog 2–4 Caersws (22.09.2012)
  • Last away goal – Penrhyncoch 0–4 CPD Porthmadog (17.11.2012)
  • Last away appearance – Rhyl 2-2 CPD Porthmadog (01.12.2012)
  • Last home appearance – CPD Porthmadog 0–2 Cefn Druids (12.01.2013)

Information gathered from the CPD Porthmadog old website https://www.porthmadogfc.com/index.htm