05.09.2026 | KO 14:30pm

Mae Porthmadog yn dychwelyd i Y Traeth y penwythnos hwn yn awyddus i adeiladu ar yr ysbryd ddangoswyd ganddynt ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, pan ddaethant yn ôl o 2–0 i sicrhau gêm gyfartal 2–2 oddi cartref yn erbyn Hotspur Caergybi. Roedd yn gêm ddramatig a welodd ddau gic o’r smotyn yn cael eu methu, ynghyd â pherfformiad ail hanner penderfynol gan Port, a wrthododd adael i’r gêm lithro i ffwrdd ar ôl 20 munud agoriadol anodd. Bydd y gwydnwch hwnnw’n hanfodol unwaith eto wrth i Tref y Bala gyrraedd – clwb â phrofiad helaeth o’r haen uchaf o bêl-droed Cymru.
Mae’r ddau glwb yn dod i’r gêm hon ar ôl tymhorau cwbl wahanol. Enillodd Porthmadog eu lle yn Adran Dau drwy sicrhau buddugoliaeth yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Adran Tri, camp gofiadwy a amlygodd y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y clwb. Bala Town, ar y llaw arall, brofodd dor-calon ar ddiwedd y tymor, gan ddisgyn o’r Uwch Gynghrair yn dilyn colled yn y gêm olaf a hynny yn y munudau olaf – diwedd dramatig a phoenus i’w cyfnod hir yn y brif adran.
Mae hanes ehangach Tref y Bala yn parhau i siarad drosto’i hun. Treuliodd y clwb nifer o dymhorau yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair, gan sefydlu eu hunain fel un o’r timau mwyaf cyson a pharchus yng Nghymru. Mae eu campau’n cynnwys ymgyrchoedd Ewropeaidd a’u cymerodd ar draws y cyfandir, gan gynrychioli pêl-droed Cymru gyda balchder. Un o’u llwyddiannau mwyaf nodedig oedd ennill Cwpan Cymru yn tymor 2016-17 – carreg filltir a danlinellodd eu huchelgais a’u twf. Daw Bala i’r gêm hon ar ôl colli adre yn erbyn Y Drenewydd ddydd Llun, ond mae eu hansawdd a’u profiad yn golygu mai nhw yw un o’r gwrthwynebwyr cryfaf y bydd Port yn eu hwynebu eleni.
I Porthmadog, mae’r gêm hon hefyd yn gyfle i ymateb yn gadarnhaol ar ôl colli 1–3 yn erbyn Caersws ar Y Traeth ddiwedd mis Awst. Roedd y gêm honno’n llawn cyfleoedd i Port, ond methodd sawl un â chael eu troi’n goliau. Roedd Caersws yn glinigol, gan sgorio ddwywaith yn hwyr ar ôl i Morgan Owen sicrhau’r gôl gyfartal yn y 72ain munud.
Bydd brwydrau allweddol rhwng Port a’r Bala ar draws y cae wrth i’r ddau dîm geisio ennill mantais. Bydd y canol cae yn ardal hanfodol, gyda chwaraewyr profiadol ar y ddwy ochr yn ceisio rheoli meddiant, trawsnewidiadau, a chreu cyfleoedd. Bydd cefnogwyr yn gobeithio gweld perfformiad cystadleuol a gêm fywiog ar Y Traeth am 2:30pm ddydd Sadwrn.
Mae’r gêm hon yn dod â dau glwb gyda hanesion gwahanol ond uchelgais tebyg ynghyd, gyda Port yn anelu at adeiladu ar eu llwyddiant yn Haen Tri a Bala yn ceisio ymateb ar ôl eu disgyniad dramatig y tymor diwethaf.
Porthmadog return to Y Traeth this weekend eager to build on the fighting spirit they showed on Bank Holiday Monday, when they came back from 2–0 down to secure a 2–2 draw away at Holyhead Hotspur. It was a dramatic contest featuring two missed penalties and a determined second‑half performance from Port, who refused to let the game slip away after a difficult opening 20 minutes. That resilience will be crucial once again as Bala Town arrive — a club with extensive experience of the top tier of Welsh football.
Both clubs come into this fixture after completely contrasting seasons. Porthmadog earned their place in Tier Two by winning the Tier Three play‑off final, a memorable achievement that highlighted the progress being made at the club. Bala Town, meanwhile, suffered heartbreak at the opposite end of the pyramid, relegated from the Welsh Premier League following a defeat in their final match — and in the final minutes — a dramatic and painful end to their long stay in the top division.
Bala’s wider history continues to speak for itself. The club spent many seasons competing in the Welsh Premier League, establishing themselves as one of the most consistent and respected sides in Wales. Their achievements include European campaigns that took them across the continent, proudly representing Welsh football. One of their most notable successes came in 2016-17 season, when they lifted the Welsh Cup — a milestone that underlined their ambition and growth. Bala come into this fixture after a home defeat to Newtown on Monday, but their quality and experience mean they remain one of the strongest opponents Port will face this season.
For Porthmadog, this match is also an opportunity to respond positively after their last outing at Y Traeth ended in a 1–3 defeat to Caersws at the end of August. That game was full of chances for Port, but several clear openings went unconverted. Caersws were clinical, scoring twice late on after Morgan Owen had equalised in the 72nd minute.
Key battles between Port and Bala will take place across the pitch as both sides look to gain an advantage. The midfield will be a crucial area, with experienced players on both teams aiming to control possession, manage transitions, and create opportunities. Supporters will hope to see a competitive performance and an entertaining contest at Y Traeth at 2:30pm on Saturday.
This match brings together two clubs with different histories but similar ambition, with Port aiming to build on their Tier Three success and Bala looking to respond after last season’s dramatic relegation.

