You are currently viewing Holyhead Hotspur vs CPD Porthmadog | Adroddiad Gêm / Match Report

Holyhead Hotspur vs CPD Porthmadog | Adroddiad Gêm / Match Report

Holyhead Hotspur

Nathan Williams 9′
Jamie Jones 19′

2 vs 2

Caersws

Osian Ellis 49′
Dylan Summers-Jones 56′

31.08.2026

Cynghrair y Gogledd Novira Cymru North
Stadiwm / Venue: -The Yates Stadium, Holyhead Hotspur
Cic gyntaf / KO: 14:30pm

Tybiwn fod llawer i gefnogwr pêl-droed wedi syrffedu ar yr hen ystrydeb (cliché) ‘gêm o ddwy hanner’. Ond chwarae teg, dyna`n union oedd hon wrth i Port achub yr ornest gyda pherfformiad cryf iawn yn yr ail hanner wedi i`r Hotspur fynd 2-0 ar y blaen ar yr egwyl. Yn wir, bu ond y dim i Port gipio buddugoliaeth annisgwyl yn ystod y munudau olaf.

Dechreuodd pethau`n hynod addawol i Port ar ôl dim ond dau funud wrth i`r dyfarnwr Adam Herbert  bwyntio i`r smotyn wedi i Dylan Summers-Jones gael ei faglu yn y blwch cosbi. Cododd Dylan ar ei draed ond arbedwyd ei ymdrech gan Guto Hughes yn y gôl wrth blymio i`w chwith. O diar! Mi fyddai Port yn edifar am hon a bu i`r un chwaraewr feth cyfle arall go dda wedi iddo garlamu heibio`r amddiffyn cyn i`w ergyd siomedig fynd heibio`r nod.

Setlodd hogiau Caergybi yn dda ar ôl hyn gan ennill cyfres o giciau cornel. A wir i chi, o un o`r rhain daeth ei gôl agoriadol. Crymanodd Ifan Emlyn ei gic gornel i mewn i ardal beryglus ac wrth i Port fethu a`i chlirio`n iawn, manteisiodd Nathan Williams gan daranu`r bel i do`r rhwyd.

Deng munud yn ddiweddarach, roedd yr Hotspur ar ben eu digon diolch i berl o gôl gan Jamie Jones wrth iddo osod foli daclus heibio Robbie Williams wedi iddo gasglu croesiad perffaith gan Jake Roberts. Nefoedd felly i`r tîm cartref ar ôl dim ond 19 munud a`r ymwelwyr gyda mynydd i`w ddringo.

Daeth llygedyn o obaith i Port cyn yr egwyl wrth i ergyd gref Ryan Williams o bellter gael ei harbed yn dda iawn gan Guto Hughes ond yr Hotspur oedd piau hi 2-0 ar yr hanner.

Fedren ni ddim llai na thybio fod hogiau Port wedi derbyn pregeth go hallt gan eu rheolwr, Chris Jones yn yr ystafell wisgo gan iddynt edrych yn dim llawer mwy adeiladol a phositif wedi`r egwyl. Yn wir ar ôl dim ond tri munud, dyma ennill cic o`r smotyn am yr eildro wedi i DSJ gael ei faglu eto wrth garlamu i mewn i`r cwrt cosbi. Rhoddwyd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau llydan Morgan Owen y tro hwn. Ergydiodd i`r dde ond….arbediad campus arall gan Guto Hughes. Ond roedd Osian Ellis yn effro a chamodd ymlaen i osod hanner foli dwt heibio Hughes i gefn y rhwyd. 2-1 a hoffwn ddweud …..’game on`!!

Cawsom ein gwobrwyo gyda gêm go gyffrous wedi hyn gyda Port yn adeiladu ymosod ar ôl ymosod tra roedd Caergybi`n parhau i fygwth ar adegau trwy wrth-ymosod ac roedd angen arbediad da iawn gan Robbie Williams yn gôl Port i rwystro cic rydd ardderchog gan y tîm cartref.

Ar 56 munud, dyma Port yn unioni`r sgôr wedi i DSJ gasglu pas dreiddgar gan Cai Jones. Gyda dim ond Guto Hughes i`w guro tarodd y bel yn erbyn corff y golwr cyn casglu`r briwsion a rhwydo ar yr ail gyfle gan gerdded y bêl i mewn i`r rhwyd. 2-2….pwy fase`n meddwl!!

Ar 73`, bu bron iawn i Port fynd ar y blaen wrth i Gwion Dafydd droi`n gelfydd ar ymyl y cwrt cyn gosod ergyd hyfryd yn erbyn gwaelod y postyn gyda Guto Hughes wedi ei guro`n rhacs. Hen dro! Yna tro`r eilydd arall oedd hi, sef Luke Baum wrth iddo ddawnsio heibio tri amddiffynnwr cyn rhoi ei ergyd gref yn erbyn y postyn. Mi fyddai hon hefyd wedi bod yn gôl a hanner. Anlwcus iawn!

Felly 2-2 oedd hi a`r canlyniad yn un digon teg ar ddiwrnod pan fu i ddewin o`r enw Lionel Messi o`r Ariannin gyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol. Ydy, mae hi`n gêm brydferth ar bob lefel cofiwch.

Bnawn Sadwrn nesaf byddwn yn croesawu tîm cryf Y Bala i`r Traeth gyda`r gic gyntaf am 2:30 p.m. Byddwch yno!

Holyhead Hotspur: – Guto Hughes, James Phillips, Jake Roberts, Tomos Owen, Nathan Williams, Ifan Emlyn Jones, Jamie Jones, Jack Walsh, Byron Davis (Cory Williams 66`), Connor Owen, Craig Whelan (Huw Morris 66`).

Eilyddion nas defnyddiwyd: – Cameron Buckley, Casey Gregg, Reece Thomas, Lucas Garmey   Cardiau melyn: Tomos Owen (25`), Ifan Emlyn Jones (45`), Guto Hughes (60`), Jake Roberts (87`)

Porthmadog: – Robbie Williams, Morgan Owen, Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Tom Mahoney (Sion Williams 81`), Sam Reynolds (Gwion Dafydd 74`), Ryan Williams, Cai Jones, Osian Ellis (Rhys Alun Williams 81`), Dylan Summers- Jones (Luke Baum 81`)

Eilyddion nas defnyddiwyd: – Dan Clark (gol. ), Jonny Bravo, Cai Griffith

Cardiau melyn:- Morgan Owen (57`), Dylan Summers-Jones (70`), Josh Banks (81`)

Dyfarnwr: – Adam Herbert  

Cynorthwywyr: – Lilah Thomas, John Palmer

Torf: – 557

Adroddiad: – Treflyn Jones

We can assume that many football supporters have grown tired of the old cliché, “a game of two halves.” But to be fair, that’s exactly what this one was, as Port rescued the contest with a very strong second‑half performance after Hotspur went 2–0 ahead by the interval. In truth, Port came within a whisker of snatching an unexpected victory in the closing minutes.

Things began extremely promisingly for Port after just two minutes when referee Adam Herbert pointed to the spot after Dylan Summers‑Jones was tripped in the penalty area. Dylan got back to his feet, but his effort was saved by Guto Hughes, diving to his left. Oh dear! Port would regret that one, and the same player missed another good chance shortly afterwards when he burst past the defence only to send his disappointing shot wide.

Holyhead settled well after this, winning a series of corners. And sure enough, from one of these came their opening goal. Ifan Emlyn curled his corner into a dangerous area and, as Port failed to clear properly, Nathan Williams pounced and smashed the ball into the roof of the net.

Ten minutes later, Hotspur were in complete control thanks to a pearler of a goal from Jamie Jones, who placed a neat volley past Robbie Williams after collecting a perfect cross from Jake Roberts. Cloud nine for the home side after only 19 minutes, and the visitors with a mountain to climb.

Port found a glimmer of hope before the break when a powerful long‑range strike from Ryan Williams was very well saved by Guto Hughes, but Hotspur held a deserved 2–0 lead at half‑time.

We can safely assume the Port lads received a stern talking‑to from manager Chris Jones in the dressing room, as they looked far more constructive and positive after the interval. Indeed, after just three minutes they won a second penalty when DSJ was tripped again as he darted into the box. This time the responsibility fell on the broad shoulders of Morgan Owen. He struck to the right but… another superb save from Guto Hughes. But Osian Ellis was alert, stepping forward to place a tidy half‑volley past Hughes into the net. 2–1 and, dare I say it… game on!

We were treated to a genuinely exciting match from here on, with Port building attack after attack while Holyhead continued to threaten on the counter. Robbie Williams was called upon to make a very good save to deny an excellent free‑kick from the home side.

On 56 minutes, Port levelled the score when DSJ collected a penetrating pass from Cai Jones. With only Guto Hughes to beat, he struck the ball against the keeper’s body before gathering the scraps and finishing at the second attempt, walking the ball into the net. 2–2… who would have thought it!

On 73 minutes, Port almost went ahead when Gwion Dafydd turned cleverly on the edge of the box before placing a lovely shot against the base of the post with Hughes beaten all ends up. So unlucky! Then it was the turn of another substitute, Luke Baum, who danced past three defenders before smashing his shot against the post. That would have been some goal. Very unfortunate!

So, 2–2 it finished, a result that was fair enough on a day when a wizard named Lionel Messi of Argentina announced his retirement from international football. Yes, it’s a beautiful game at every level.

Next Saturday we welcome a strong Bala Town side to Y Traeth, kick‑off 2:30pm. Be there!

Holyhead Hotspur: Guto Hughes, James Phillips, Jake Roberts, Tomos Owen, Nathan Williams, Ifan Emlyn Jones, Jamie Jones, Jack Walsh, Byron Davis (Cory Williams 66’), Connor Owen, Craig Whelan (Huw Morris 66’).

Unused substitutes: Cameron Buckley, Casey Gregg, Reece Thomas, Lucas Garmey

Yellow cards: Tomos Owen (25’), Ifan Emlyn Jones (45’), Guto Hughes (60’), Jake Roberts (87’)

Porthmadog: Robbie Williams, Morgan Owen, Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Tom Mahoney (Sion Williams 81’), Sam Reynolds (Gwion Dafydd 74’), Ryan Williams, Cai Jones, Osian Ellis (Rhys Alun Williams 81’), Dylan Summers‑Jones (Luke Baum 81’)

Unused substitutes: Dan Clark (GK), Jonny Bravo, Cai Griffith

Yellow cards: Morgan Owen (57’), Dylan Summers‑Jones (70’), Josh Banks (81’)

Referee: Adam Herbert

Assistants: Lilah Thomas, John Palmer

Attendance: 557

Report: Treflyn Jones