
CPD Llannefydd
Thomas Jones (38′ pen)
David Lawson-Cooke (89′)
2 vs 2
CPD Porthmadog
Rhys Alun (24′)
Osian Evans (78′)
Cynghrair Lock Stock Gogledd Orllewin/ North West League
Cae Llan, Llannefydd @ 2:30 p.m. 02/05/2026
CPD Llannefydd a CPD Porthmadog yn rhannu’r pwyntiau yn deg
A dyna ni – mae gemau’r gynghrair bellach wedi’u cwblhau wrth i ni droi i mewn i fis Mai. Chwaraewyd 26 o gemau gan sicrhau 21 o fuddugoliaethau, 6 gêm gyfartal a dim ond 3 colled – dau ohonynt yn erbyn pencampwyr y tymor, Clwb Pêl-droed Dinas Bangor City 1876. Ond mae’r her fwyaf yn dal o’n blaenau wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer y gêm ail-gyfle. Bydd rhaid aros pythefnos i wybod pwy fydd y gwrthwynebwyr a ble y cynhelir y gêm – ond bydd Port yn barod.
Daeth y chweched gêm gyfartal o’r tymor ar Gae Llan wrth i Port deithio i Ddyffryn Clwyd ar brynhawn oedd yn addo tywydd gwael. Ond wrth i’r ffordd ddringo tuag at Llannefydd, torrodd yr haul drwy’r cymylau – nid y tro cyntaf eleni i’r rhagolygon fod ar gam!
Er nad yw Llannefydd y lle hawsaf i gyrraedd, roedd y cae mewn cyflwr arbennig ac yn barod ar gyfer gêm gystadleuol. O’r chwiban gyntaf, roedd yn glir nad oedd hon yn mynd i fod yn gêm ddiflas.
Cafwyd dechrau agos a thaclus, gyda’r ddau dîm yn rhannu meddiant. Daeth y cyfle cyntaf i’r tîm cartref pan darodd Mathew Jones ergyd bwerus o bell, ond roedd Josh Cooke yn effro i gadw’r sgôr yn ddi-gôl.
Roedd Llannefydd yn cael cyfnod o bwysau, ond yn erbyn llif y gêm fe darodd Port gyntaf. Pas hir gan Zak Pike o’i hanner ei hun a ddaeth o hyd i rhediad grymus Rhys Alun. Rheolodd y blaenwr yn wych cyn taro’r bêl yn uchel a heibio Dylan Jones – gôl o safon arall gan Rhys Alun.
Ond dim ond eiliadau wedyn roedd angen i Josh Cooke arbed eto wrth i Llannefydd geisio ymateb. A daeth yr ymateb yn fuan wedyn. Croesiad o’r chwith, ymosodwr yn cael ei faglu yn y cwrt cosbi, a’r dyfarnwr yn pwyntio’n syth at y smotyn. Ergyd gref Thomas Jones ac yn unioni’r sgôr.
Cyn yr egwyl, cafodd Gruff Ellis gyfle da ar ôl gwaith adeiladu craff, ond aeth ei ergyd heibio’r postyn. Cyfartal ar y toriad – a digon i chwarae amdano.
Dechreuodd yr ail hanner yn araf, gyda’r ddau dîm yn chwilio am feddiant. Daeth cyfle da i Port pan roddodd Llannefydd y bêl i ffwrdd yn eu hanner eu hunain. Cydiodd Zak Pike y bêl yn syth, pasiodd i Ryan Williams, a llithrodd yntau’r bêl yn ôl i Zak. Ergyd gyntaf-troed dde bwerus – ond arbediad gwych gan Dylan Jones.
Roedd cyfleoedd ar y ddwy ochr, gyda Josh Cooke yn gorfod ymateb i ergyd beryglus gan Gwion Owen, a Rhys Alun yn gweld cic rydd bwerus yn cael ei harbed unwaith eto gan y gôl-geidwad cartref.
Daeth eilyddion ymlaen gan Port ar ôl 68 munud gyda Osian Evans a Shaun Cavanagh yn cael yr hawl i redeg at amddiffyn Llannefydd. A newidiodd y gêm. Ar 78 munud, pêl hir lawr yr allt, Osian Evans yn gweld cyfle yn sydyn, yn curo’r amddiffynnwr ac yn llithro’r bêl heibio Dylan Jones. Port yn ôl ar y blaen.
Cafwyd cyfle i selio’r gêm yn hwyr – Shaun Cavanagh bron yn manteisio ar bas gan Ryan Williams – ond llwyddodd Mathew Jones i glirio o’i linell gôl ei hun.
Wrth i’r amser redeg allan, roedd Llannefydd yn pwyso’n galed. Daeth croesiad peryglus a pheniad gan Tomos Salisbury yn mynd heibio’r postyn. Ond yn y funud olaf, daeth yr ergyd hwyr am y pwyntiau llawn. Ergyd Mathew Jones yn cael ei harbed gan Cooke ond adlamodd y bêl i droed David Lawson-Cooke a rhwydodd i wneud hi’n 2–2.
Yn y funud olaf o amser ychwanegol, cafodd Port gyfle arall – peniad Sam Carrier yn cael ei glirio oddi ar y llinell – ond roedd y gêm wedi mynd.
Ar ôl tri munud o amser ychwanegol, fe ddaeth y chwiban olaf – a phwynt i’r ddau dîm. Gêm agos, gêm deg, a gêm a adlewyrchodd ymdrech y ddau dîm.
Bydd Llannefydd yn gorffen eu tymor gyda dwy gêm arall, tra bydd Chris Jones yn troi ei sylw at y gêm ail-gyfle – y gêm fwyaf o’r tymor. Cadwch lygad ar cpdporthmadogfc.com a’r cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
CPD Llannefydd: Dylan Jones, Elgan Roberts, Sam Jones (Ianto Price-Jones 79′), Michael Guest, Ciran Jones, Edward Jones, Thomas Jones, Mathew Jones, Tomos Salisbury, Gwion Owen, Llion Morris (David Lawson-Cooke 79′)
Eilyddion heb eu defnyddio: Sean James, Dyfan Thomas, William Whelan, Rhys Johnson
Cerdyn Melyn: Thomas Jones (36’)
CPD Porthmadog: Josh Cooke, Steffan Alford (Cai Griffiths 45’), Jack Rimmer, Josh Banks, Gruff Ellis, Caio Evans (Sam Carrier 75’), Rhys Alun (Shaun Cavanagh 68’), Ryan Williams, Jonny Bravo (Osian Evans 68’), Cai Jones, Zak Pike (Hari Price-Clishelm 85’)
Eilydd heb ei defnyddio: Dan Clark (GK)
Cardiau Melyn: Jonny Bravo (56’), Josh Banks (67’), Zak Pike (69’)
Dyfarnwr: Bradley Tonks
Cynorthwywyr: Luke Allsop, Mark Jones
Torf: 103
Adroddiad: Dylan Ellis
CPD Llannefydd and CPD Porthmadog share the points
And that’s that – the league fixtures are now complete as we move into May. Twenty‑six matches played, producing 21 wins, 6 draws and only 3 defeats – two of those against this season’s champions, Bangor City 1876. But the biggest challenge still lies ahead as preparations begin for the play‑off match. We’ll have to wait a fortnight to discover the opponents and venue – but Port will be ready.
The sixth draw of the season came at Cae Llan as Port travelled to Dyffryn Clwyd on an afternoon that promised poor weather. But as the road climbed towards Llannefydd, the clouds broke, and the sun appeared – not the first time this year that the forecasts have been wrong.
Although Llannefydd isn’t the easiest place to reach, the pitch was in excellent condition and ready for a competitive contest. From the first whistle it was clear this wasn’t going to be a dull affair.
Both sides started tidily, sharing possession. The first real chance fell to the home side when Mathew Jones struck a powerful effort from distance, but Josh Cooke reacted well to keep the scores level.
Llannefydd enjoyed a spell of pressure, but it was Port who struck first. A long pass from Zak Pike found the strong run of Rhys Alun, who controlled superbly before lifting the ball high past Dylan Jones – another quality finish from the striker.
But only seconds later Cooke was called into action again as the hosts pushed for an equaliser. And it arrived soon after. A cross from the left, a forward tripped inside the box, and the referee pointed straight to the spot. Thomas Jones converted confidently to level the match.
Before the break, Gruff Ellis went close after neat build‑up play, but his effort drifted wide. All square at half‑time, with everything still to play for.
The second period began slowly, both sides battling for control. Port created the first clear chance when Llannefydd gifted possession in their own half. Pike pounced, fed Ryan Williams, who returned the pass, but Pike’s first‑time strike was brilliantly saved by Dylan Jones.
Chances came at both ends – Cooke denying Gwion Owen, and Rhys Alun seeing a powerful free‑kick saved once more by the home keeper.
Port introduced substitutes after 68 minutes, with Osian Evans and Shaun Cavanagh adding fresh energy to the attack. And the change paid off. On 78 minutes, a long ball down the slope released Evans, who beat the defender and slid the ball past Dylan Jones to restore Port’s lead.
There was a late chance to seal the win – Cavanagh almost capitalising on a Ryan Williams pass – but Mathew Jones cleared off his own goal line.
As time ticked away, Llannefydd pushed hard. A dangerous cross found Tomos Salisbury, whose header flashed wide. But in the final minute the decisive moment arrived. A strike from Mathew Jones was saved by Cooke, but the rebound fell to David Lawson‑Cooke who finished and made the score level again at 2–2.
Port had one last opportunity in stoppage time – a Sam Carrier header cleared off the line – but the match ended level.
After three added minutes, the final whistle confirmed a point apiece. A close contest, a fair result, and a match that reflected the effort of both teams.
Llannefydd now look to complete their season with two remaining fixtures, while Chris Jones turns his attention to the play‑off – the biggest match of the campaign. Keep an eye on cpdporthmadogfc.com and social media for updates.
CPD Llannefydd: – Dylan Jones, Elgan Roberts, Sam Jones (Ianto Price-Jones 79′), Michael Guest, Ciran Jones, Edward Jones, Thomas Jones, Mathew Jones, Tomos Salisbury, Gwion Owen, Llion Morris (David Lawson-Cooke 79′)
Unused subs: Sean James, Dyfan Thomas, William Whelan, Rhys Johnson
Yellow card: Thomas Jones (36’)
CPD Porthmadog: – Josh Cooke, Steffan Alford (Cai Griffiths 45’), Jack Rimmer, Josh Banks, Gruff Ellis, Caio Evans (Sam Carrier 75’), Rhys Alun (Shaun Cavanagh 68’), Ryan Williams, Jonny Bravo (Osian Evans 68’), Cai Jones, Zak Pike (Hari Price‑Clishelm 85’)
Unused sub: Dan Clark (GK)
Yellow cards: Jonny Bravo (56’), Josh Banks (67’), Zak Pike (69’)
Referee: Bradley Tonks
Assistants: Luke Allsop, Mark Jones
Attendance: 103
Report: Dylan Ellis