You are currently viewing CPD Porthmadog vs CPD Y Rhyl 1879 | Adroddiad y Gêm / Match Report
Gôl Luke Baum yn ennill y gêm / Luke Baum's goal wins the game

CPD Porthmadog vs CPD Y Rhyl 1879 | Adroddiad y Gêm / Match Report

Cynghrair Novira Gogledd Cymru / Novira Cymru North League

Noddwyr y gêm / Match Sponsor: Toyota Harlech

Noddwyr y bêl / Ball Sponsor: Baavet

Lleoliad / Venue: – Y Traeth, Porthmadog

8 Awst / August 2026

Cic gyntaf / Kick off: 2:30pm

Porthmadog: – 1

Luke Baum (84`)

Y Rhyl 1879: – 0

Un o`r eilyddion oedd Luke Baum heddiw ond bydd y diwrnod hwn yn aros yn hir yng nghof y chwaraewr ifanc gynt o Talysarn Celts wrth iddo rwydo`r gôl fuddugol ar derfyn gem agos yn erbyn tîm deniadol a disgybledig Y Rhyl 1879. Llongyfarchiadau iddo fo…….a gweddill tîm Port wrth gwrs!

Cychwynnodd Port ar y droed flaen gan greu tri chyfle i sgorio yn ystod y saith munud agoriadol. Daeth Morgan Owen yn agos wrth i`w ergyd wyro heibio`r postyn ar ôl tri munud. Yna, daeth Dylan Summers-Jones yn agos gyda pheniad o bas gan Owen. Y trydydd oedd Osian Ellis wrth iddo grymanu perl o ergyd o bell yn erbyn y trawst gyda Riley yn y gôl wedi ei guro`n rhacs.

Wedi hyn, daeth Rhyl fwyfwy i mewn i`r gêm a gorfu i Robbie Williams yn gôl Port fod yn effro i gyffwrdd croesiad uchel Josh Jones dros y trawst cyn i beniad cryf Dan Cockerline adlamu`n garedig oddi ar y trawst y tro hwn.

Tro Port oedd hi wedyn wrth i DSJ ergydio heibio`r nod yn dilyn gwaith da gan Sam Reynolds a Morgan Owen cyn i`r un chwaraewr dwyllo ei farciwr cyn rhoi ergyd gref i mewn i`r rhwyd ochr,

Di-sgôr oedd hi ar yr egwyl ar derfyn hanner digon cyfartal o safbwynt meddiant a thiriogaeth. Ond, teg dweud fod y cyfleon gorau wedi disgyn i Port.

Ar ddechrau`r ail hanner, daeth rhybudd amserol i amddiffyn Port wrth i beniad Joshua Jones hedfan ddim ond modfeddi heibio`r nod. Fe ddeffrodd Port ar eu hunion a bu i Ryan Williams, gyda tharan o ergyd,  orfodi arbediad da iawn gan Riley wrth iddo gyfeirio`r bel heibio`r postyn.

Oedd roedd y gêm yn parhau yn gyfartal mewn llawer ffordd a gorfu i Williams yn gôl Port arbed yn dda iawn o ergyd isel o bellter gan Cockerline mewn cyfnod pan oedd cyflymder ymosodwyr Y Rhyl yn pery cryn ofid i gefnwyr Y Traeth.

Roedd 82 o funudau ar y cloc pan ddaeth yr eilydd Luke Baum yn agos i agor y sgorio gan orfodi i Riley arbed gyda`i goesau wrth iddo rwystro ergyd o ongl dynn yn dilyn rhediad da. Ond…….peidiwch a phoeni…. Dau funud yn ddiweddarach bu i bas wych gan Ryan Williams ganfod Luke eto, ac, ar derfyn rhediad hyderus, llwyddodd i guro`r trap camsefyll, ergydiodd yn galed heibio Riley i gefn y rhwyd. Gôl gampus a gwelwyd y criw ifanc tu ôl y gôl yn gorfoleddu.

Gwelsom ambell ymosodiad beryglus gan Y Rhyl wedyn ond llwyddodd amddiffyn Port i gadw eu pennau er mwyn sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn tîm da.

Sadwrn nesaf, bydd Port yn teithio i Bwcle ar gyfer eu trydedd gêm. Bydd y gic gyntaf am 2:30yp a phob lwc i`r hogia.

Porthmadog: – Robbie Williams (gôl-geidwad), Morgan Owen, Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Sion Williams (Tom Mahoney 78`), Sam Reynolds (Steffan Alford 85`), Ryan Williams, Gwion Dafydd (Luke Baum 70`), Osian Ellis (Jack Humphreys 85`), Dylan Summers-Jones (Rhys Alun 70`).

Eilyddion heb eu defnyddio:- Dan Clark (gôl-geidwad), Daniel Wood

Y Rhyl 1879: – Luke Riley, Alex Romeo (Joel Giblin 46`), William Holmes, Ryan Austin (Mo Ali 88`), Joe Ly (Samuel Duffy 70`), Bradley Barnes (Luka Graham 70`), Morgan Murray, Ben Lightfoot, Dan Cockerline, Joshua Jones, Max Moore (N/A 70`)

Eilyddion heb eu defnyddio:- Stephen Bullen

Cerdyn melyn:- Mo Ali (88`)

Dyfarnwr: – Elwyn Rhys Parry

Cynorthwywyr: – Laura Roberts, David Griffiths

Goruchwyliwr: – John Frederick Baston

Torf: – 424

Adroddiad: – Treflyn Jones

One of today’s substitutes was Luke Baum, but this will be a day long remembered by the former Talysarn Celts youngster as he struck the winning goal at the end of a tight match against a well‑organised and disciplined Rhyl 1879 side. Congratulations to him… and of course to the rest of the Port team.

Port started on the front foot, creating three scoring chances within the opening seven minutes. Morgan Owen went close after three minutes when his shot drifted just wide of the post. Then Dylan Summers‑Jones almost scored with a header from an Owen cross. The third chance fell to Osian Ellis, who unleashed a stunning long‑range effort that crashed against the bar with Riley in goal completely beaten.

After this, Rhyl grew more and more into the game, forcing Robbie Williams in the Port goal to be alert as he tipped a high Josh Jones cross over the bar, before a powerful Dan Cockerline header bounced kindly off the bar this time.

Port responded again as DSJ fired wide following good work from Sam Reynolds and Morgan Owen, before the same player deceived his marker and drove a strong effort into the side netting.

It was goalless at the interval after a fairly even half in terms of possession and territory. But it’s fair to say the better chances had fallen to Port.

Early in the second half came a timely warning for the Port defence as Joshua Jones’ header flew inches wide. Port woke up immediately, and Ryan Williams forced an excellent save from Riley with a thunderous strike that was pushed just past the post.

The game remained evenly balanced in many ways, and Williams in the Port goal had to save very well from a low long‑range effort by Cockerline during a spell when Rhyl’s attacking pace was causing real concern for the Traeth back line.

With 82 minutes on the clock, substitute Luke Baum came close to opening the scoring, forcing Riley into a save with his legs after a tight‑angle shot following a good run. But… no need to worry. Two minutes later, a superb pass from Ryan Williams found Luke again, and at the end of a confident run he beat the offside trap and drilled the ball past Riley into the net. A terrific goal, and the young supporters behind the goal erupted in celebration.

Rhyl produced a couple of dangerous attacks afterwards, but Port’s defence held firm to secure a memorable victory against a good side.

Next Saturday, Port travel to Buckley for their third match. Kick‑off is at 2:30 p.m. Best of luck to the lads.

Porthmadog:

Robbie Williams (goalkeeper), Morgan Owen, Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Sion Williams (Tom Mahoney 78’), Sam Reynolds (Steffan Alford 85’), Ryan Williams, Gwion Dafydd (Luke Baum 70’), Osian Ellis (Jack Humphreys 85’), Dylan Summers‑Jones (Rhys Alun 70’). Unused substitutes: Dan Clark (goalkeeper), Daniel Wood

Rhyl 1879:

Luke Riley, Alex Romeo (Joel Giblin 46’), William Holmes, Ryan Austin (Mo Ali 88’), Joe Ly (Samuel Duffy 70’), Bradley Barnes (Luka Graham 70’), Morgan Murray, Ben Lightfoot, Dan Cockerline, Joshua Jones, Max Moore (N/A 70’)

Unused substitute: Stephen Bullen

Yellow card: Mo Ali (88’)

Referee: Elwyn Rhys Parry

Assistants: Laura Roberts, David Griffiths

Observer: John Frederick Baston

Attendance: 424

Report: Treflyn Jones