Adroddiad y gêm / Match Report
Cynghrair Lock Stock Gogledd Orllewin / North West League
Cae Seilo, Y Felinheli 22/04/2026 18.30pm
CPD Y Felinheli
0 vs 3
CPD Porthmadog
Danny Brookwell (2′)
Ryan Williams (90′)
Osian Evans (90 +3 c.o.s)
Ar derfyn gêm gystadleuol rhwng dau dîm da ar Gae Seilo, aeth cefnogwyr Porthmadog adref gydag arogl hyfryd buddugoliaeth haeddiannol yn eu ffroenau. Ond, wir i chi, doedd hi ddim mor hawdd ag mae`r sgôr terfynol yn ei awgrymu……ddim cweit!
Gan chwarae i lawr y gogwydd (bu bron i mi ddweud ‘clogwyn’!) yn yr hanner cyntaf, cychwynnodd Port y gêm yn wirioneddol ar y droed flaen gan gael eu henwau ar y sgorfwrdd o fewn y ddau funud cyntaf. Aeth Osian Evans ar wib i lawr yr asgell chwith gan basio i Danny Brookwell o fewn y cwrt cosbi cyn i`r blaenwr chwim o`r Borth ergydio`n hyderus i gornel y rhwyd heibio Keirion Mansell yn y gôl. 0-1 i Port.
Bu Brookwell yn ddyn prysur a chyflym gydol ei amser ar y cae gan fygwth rheng ôl Felinheli dro ar ôl tro gyda`i rediadau cryf a rhoes ergyd nerthol arall fymryn heibio`r postyn cyn gorfod gadael y cae gydag anaf o bosibl ar llinyn y gar. Am siom iddo fo ac i`r cefnogwyr!
Wrth i`r hanner fynd yn ei blaen, fe setlodd Felinheli yn dda gan lansio nifer o ymosodiadau bygythiol i lawr y ddwy asgell ond heb orfodi Josh Cooke i wneud yr un arbediad. Erbyn canol yr hanner cyntaf, trodd y gêm yn frwydr gyflym a chaled yng nghanol cae gyda thaclo penderfynol ond glan. Yn wir, testun canmoliaeth i`r ddau dim yw`r ffaith na welwyd cerdyn melyn trwy gydol y frwydr i mi gofio.
Prin oedd ergydion ar y targed cyn yr egwyl ond gwelwyd un gic rydd gan Rhys Alun yn gorfodi arbediad gan Mansell yn y gôl i`r Felin a daeth yr hanner i ben gyda`r sgôr yn 0-1 i`r ymwelwyr.
Ar ddechrau`r ail hanner cynyddodd y bygythiad gan flaenwyr Felinheli a chawsant y bêl ar y targed am y tro cyntaf gyda pheniad o ddwy lath gyda Cooke yn gôl Port yn ddiolchgar o`i gweld yn dod yn syth i mewn i`w freichiau. Yna, ar yr awr, digwyddodd andros o sgrambl yng nghwrt chwech y Felin ac roedd cefnogwyr Port yn crafu eu pennau gan ofyn `Sut ddiawl aeth honna ddim i mewn? ` Ar ôl hyn, Port oedd piau hi mewn gwirionedd ac aeth peniad nerthol gan Osian Evans dros y trawst wrth i Port chwilio`n ofer am yr ail gôl i selio`r gem.
Wel, fe ddaeth honno ar y 90 munud ac roedd yr ochenaid o ryddhad i`w chlywed ar Stryd Fawr Bangor mae`n debyg! Cychwynnwyd y cyfan gan Caio Evans wrth i`w groesiad gael ei phenio i lawr yn gelfydd gan Jonny Bravo a dyna lle roedd Ryan Williams i roi foli lân heibio Mansell gyda ffyddloniaid Port yn gorfoleddu tu ôl i`r gol. Ond bobol bach! Roedd mwy i ddod. Cafodd y blaenwr egnïol Osian Evans ei faglu wrth redeg at y gôl gan orfodi`r dyfarnwr Mark Trigg i bwyntio at y smotyn . Camodd Osian i fyny at y bêl yn ei ffordd ddi-hafal ei hunan cyn rhwydo`n hyderus i wneud hi`n 0-3. Mewn gwirionedd, roedd y sgôr terfynol fymryn yn greulon o safbwynt y Felin ond wnawn ni ddim cwyno o gwbl.
Da iawn, Port. Da iawn wir !
Wel, mae`r Mathemateg yn syml iawn erbyn hyn. Mae Port angen buddugoliaeth ym Mynydd Isa bnawn Sadwrn i sicrhau eu lle yn y gêm ail gyfle. Sylwch mai am ddau o`r gloch fydd y gic gyntaf ac NID am 2:30. Welwn ni chi yno! Ac, fel dywed ein cyn-deidiau, “Play up, Port!!!”
Y Felinheli :- Keirion Rhys Mansell, Jack Cain (Rhys Hughes 62`), Ryan Cain, Aled Hughes, Dylan Jones, Guto Ynyr Elis, Iwan Owen (Gruffudd Williams 78`), Cal McDonald, Byron Davis (Aled Rice 78`), Gruff John (Dan Pyrs 78`), Iwan Edwards ( Caio Rhys Hughes 59`)
Eilyddion heb eu defnyddio :- Rhys Edwards, Tomos Gwynedd Davies.
Porthmadog:- Josh Cooke, Sion Williams, Cai Griffith (Jack Rimmer 40`), Gruff John, Gruff Ellis, Caio Evans, Rhys Alun (Sam Reynolds 66`), Ryan Williams, Osian Evans, Cai Jones (Jonny Bravo 66`), Danny Brookwell (Shaun Cavanagh 33`).
Eilyddion heb eu defnyddio :- Dan Clark (golwr), Zak Pike, Steffan Alford.
Dim cardiau cosb i`r nail dim na`r llall……..da iawn pawb!
Dyfarnwr / Referee: – Martin John Trigg
Cynorthwywyr / Assistants: – Cian Owen McKenna, Tomos Jones
Torf/Attendance: – 174
Adroddiad / Report: – Treflyn Jones
At the end of a competitive match between two good sides at Cae Seilo, the Porthmadog supporters went home with the sweet scent of a deserved victory in their nostrils. But honestly, it wasn’t quite as easy as the final scoreline suggests… not quite!
Playing downhill (I almost said, ‘down a cliff’!) in the first half, Port started very much on the front foot and had their names on the scoresheet within the first two minutes. Osian Evans burst down the left wing and squared to Danny Brookwell inside the penalty area, before the sharp Borth striker finished confidently into the corner past Keirion Mansell in goal. 0–1 to Port.
Brookwell was busy and lively throughout his time on the pitch, repeatedly threatening Felinheli’s back line with strong runs, and he fired another powerful effort just past the post before having to leave the field with what looked like a hamstring injury. A real disappointment for him and for the supporters.
As the half went on, Felinheli settled well and launched several dangerous attacks down both wings, though none forced Josh Cooke into a save. By the middle of the first half, the match had turned into a fast, physical battle in midfield with firm but fair tackling. In fact, it’s a credit to both teams that, as far as I recall, not a single yellow card was shown all game.
Clear chances were few before the break, but a free kick from Rhys Alun did force a save from Mansell in the Felin goal, and the half ended with the visitors still leading 0–1.
At the start of the second half, Felinheli’s forwards increased the pressure and registered their first effort on target — a header from two yards out — but Cooke was grateful to see it drop straight into his arms. Then, on the hour mark, came an almighty scramble in the Felin six‑yard box, leaving Port supporters scratching their heads and asking, “How on earth did that not go in?” After that, Port were firmly on top, and a powerful header from Osian Evans flew over the bar as Port searched in vain for the second goal to seal the game.
Well, that goal finally arrived on 90 minutes — and the sigh of relief could probably be heard on Bangor High Street! It all began with Caio Evans, whose cross was expertly headed down by Jonny Bravo, and there was Ryan Williams to volley home past Mansell, sending the Port faithful behind the goal into celebration. But goodness me, there was more to come. The energetic Osian Evans was tripped as he ran through on goal, forcing referee Mark Trigg to point to the spot. Osian stepped up in his own unmistakable style and finished confidently to make it 0–3. In truth, the final score was a little harsh on Felinheli, but we certainly won’t complain.
Well done, Port. Very well done indeed.
The maths is now very simple. Port needs a win at Mynydd Isa on Saturday afternoon to secure their place in the play‑off. Note that kick‑off is at two o’clock — NOT 2:30. See you there! And, as our great‑grandfathers used to say, “Play up, Port!”
Y Felinheli: Keirion Rhys Mansell, Jack Cain (Rhys Hughes 62’), Ryan Cain, Aled Hughes, Dylan Jones, Guto Ynyr Elis, Iwan Owen (Gruffudd Williams 78’), Cal McDonald, Byron Davis (Aled Rice 78’), Gruff John (Dan Pyrs 78’), Iwan Edwards (Caio Rhys Hughes 59’) Unused substitutes: Rhys Edwards, Tomos Gwynedd Davies.
Porthmadog: Josh Cooke, Sion Williams, Cai Griffith (Jack Rimmer 40’), Gruff John, Gruff Ellis, Caio Evans, Rhys Alun (Sam Reynolds 66’), Ryan Williams, Osian Evans, Cai Jones (Jonny Bravo 66’), Danny Brookwell (Shaun Cavanagh 33’) Unused substitutes: Dan Clark (GK), Zak Pike, Steffan Alford.
No disciplinary cards for either side — well done all.
Referee: Martin John Trigg
Assistants: Cian Owen McKenna, Tomos Jones
Attendance: 174
Report: Treflyn Jones