Adroddiad y gêm / Match Report
Cynghrair Lock Stock Gogledd Orllewin / North West League
Argoed Sports and Social Club, Mynydd Isa 25/04/2026 14.00pm
Mynydd Isa
0 vs 2
CPD Porthmadog
Osian Evans (45 +1′, 61′)
Diolch i berfformiad proffesiynol ac amyneddgar ar brynhawn heulog yn Sir y Fflint, llwyddodd Porthmadog i gipio`r ail safle yng nghynghrair y Gogledd-Orllewin a thrwy hynny selio eu lle yn y gêm ail gyfle ar ddiwedd tymor caled. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Profodd yr hanner cyntaf i fod yn ornest hynod un-ochrog wrth i Port ddominyddu`r meddiant a thiriogaeth, gan lansio ton ar ôl ton o ymosodiadau yn erbyn amddiffyn ‘styfnig a disgybledig. Roedd Mynydd Isa yn fwy na hapus i eistedd yn ôl i wrthsefyll y pwysau a bodloni ar ymosodiadau prin iawn eu hunain.
Yn sgil yr holl bwysau, bu i Port greu llu o hanner-cyfleon. Ar ôl wyth munud, cyrhaeddodd Osian Evans gyntaf i groesiad peryglus gan Josh Banks ddim ond i weld y bêl yn adlamu`n garedig oddi ar y trawst oddi ar ei beniad nerthol i ddiogelwch. Yna, wedi deng munud, gorfododd Shaun Cavanagh i Elliot Quinlan wneud arbediad isel wrth iddo ergydio o ongl dynn. Ar 25 munud, daeth yr ymwelwyr yn agosach fyth pan blymiodd Quinlan i`w chwith i arbed yn rhagorol o beniad cryf Gruff John o gic rydd Cavanagh. Pryd o pryd oedd Port am sgorio? Wel, fe ddaeth hi un munud i fewn i`r amser a ganiatawyd am anafiadau. Roedd y symudiad yn un cymhleth ond wedi i Port ennill dau beniad uchel yn y cwrt cosbi, cododd Osian Evans yn uwch na phawb i osod y trydydd peniad ym mhell o gyrraedd Quinlan i wneud hi`n 0-1 ddim ond munud cyn y chwiban olaf ar derfyn yr hanner. O`r diwedd!
Bu i hogia`r Mynydd ymdrechu`n llawer caletach o safbwynt ymosodol ar ddechrau`r ail gyfnod a bu raid i Ryan Williams, Josh Banks, Gruff John, Gruff Ellis a Caio Evans fod ar eu gwyliadwriaeth. Ond, wir i chi, cyn i gefnogwyr Port orfod poeni`n ormodol, fe sgoriodd hogia`r Traeth eu hail gan bery i`r holl bryder ynglŷn a Llanefydd i ddiflannu o flaen ein llygaid. Daeth cic gornel isel i mewn o`r asgell ac wedi i`r ergyd gyntaf gael ei rhwystro, roedd Osian Evans wrth law i daro`r bêl i`r rhwyd gyda tharan o ergyd o ddeuddeg llath. Haleliwia!
Parhaodd Mynydd Isa i ymosod o dro i dro ond llwyddon nhw ddim i orfodi`r un arbediad gan Josh Cooke drwy`r prynhawn.
Gwych fu gweld dau o`r to ifanc sef Hari Price-Clishelm a Steffan Alford yn chwarae mor dda wedi iddynt ddod ymlaen fel eilyddion a dymunwn well lwc i Steffan rwan o ran osgoi anafiadau.
Ardderchog Port! Mi gaiff y chwaraewyr ymlacio ryw fymryn wrth wynebu Llanefydd yn eu gem gynghrair olaf Sadwrn nesaf gyda`r gic gyntaf am 2:30 y tro hwn. Hei lwc hefyd yn y gêm ail gyfle. Mae`n edrych yn bur debygol mai naill ai Tref-y-Clawdd (Knighton Town) neu Dolgellau fyddwn yn eu herio yn y gêm dyngedfennol honno. Daliwch i gredu!
Mynydd Isa: – Elliot Quinlan, Owen Jones (Jack Jones 78`), Charlie Ferguson, Braden Lavin (Jay Wiles 71`), James Sparrow, George Davies, James Beck (Joshua Holmes 71`), Samuel Wainwright, Kieran Jones (Cayden Hazeldine 71`), Nathan Mendoza (Riley Williamson 85`), Dylan Roberts.
Eilyddion heb eu defnyddio :- Karl Billingsley
Porthmadog:- Josh Cooke, Gruff John, Josh Banks, Gruff Ellis, Ryan Williams, Caio Evans, Rhys Alun (Steffan Alford 62`), Sam Reynolds (Zak Pike 71`), Osian Evans, Cai Jones (Hari Price-Clishelm (84`), Shaun Cavanagh (Jonny Bravo 62`)
Eilyddion heb eu defnyddio :- Dan Clark (gk)
Cardiau melyn: – Sam Reynolds (45+2`), Steffan Alford (88`), Hari Price-Clishelm (90+2`)
Dyfarnwr: – Michael Ronald Coburn
Cynorthwywyr: – Glenn Gray, Finley Walley
Torf: – 116
Adroddiad: – Treflyn Jones
Thanks to a professional and patient performance on a sunny afternoon in Flintshire, Porthmadog succeeded in securing second place in the North‑West league and, in doing so, sealed their spot in the end‑of‑season play‑off after a demanding campaign. Huge congratulations to them.
The first half proved to be an extremely one‑sided affair as Port dominated possession and territory, launching wave after wave of attacks against a stubborn and disciplined defence. Mynydd Isa were more than happy to sit deep, absorb the pressure, and settle for the occasional rare counter‑attack of their own.
With all the pressure, Port created a host of half‑chances. After eight minutes, Osian Evans was first to reach a dangerous cross from Josh Banks, only to see his powerful header bounce kindly off the crossbar and away to safety. Then, after ten minutes, Shaun Cavanagh forced Elliot Quinlan into a low save as he struck from a tight angle. On 25 minutes, the visitors came even closer when Quinlan dived to his left to produce an excellent save from a strong Gruff John header following a Cavanagh free‑kick. When would Port finally score? Well, it came one minute into added time. The move was a complex one, but after Port won two aerial duels inside the penalty area, Osian Evans rose highest to guide the third header well beyond Quinlan to make it 0–1 just moments before the half‑time whistle. At last.
Mynydd Isa’s youngsters pushed far harder in attack at the start of the second half, and Ryan Williams, Josh Banks, Gruff John, Gruff Ellis and Caio Evans all had to stay alert. But truth be told, before Port supporters had time to worry too much, the Traeth lads scored their second, causing all concerns about Llannefydd to melt away before our eyes. A low corner was swung in from the wing and, after the initial effort was blocked, Osian Evans was on hand to smash the ball into the net with a thunderous strike from twelve yards. Hallelujah.
Mynydd Isa continued to attack sporadically, but they failed to force a single save from Josh Cooke throughout the afternoon.
It was great to see two of the younger players, Hari Price‑Clishelm and Steffan Alford, perform so well after coming on as substitutes, and we wish Steffan the best of luck now in avoiding further injuries.
Excellent work, Port. The players can relax a little as they face Llannefydd in their final league match next Saturday, with kick‑off at 2:30 this time. Best of luck also in the play‑off. It looks very likely that either Knighton Town (Tref-y-Clawdd) or Dolgellau will be their opponents in that decisive match. Keep believing.
Mynydd Isa: Elliot Quinlan, Owen Jones (Jack Jones 78’), Charlie Ferguson, Braden Lavin (Jay Wiles 71’), James Sparrow, George Davies, James Beck (Joshua Holmes 71’), Samuel Wainwright, Kieran Jones (Cayden Hazeldine 71’), Nathan Mendoza (Riley Williamson 85’), Dylan Roberts. Unused substitute: Karl Billingsley
Porthmadog: Josh Cooke, Gruff John, Josh Banks, Gruff Ellis, Ryan Williams, Caio Evans, Rhys Alun (Steffan Alford 62’), Sam Reynolds (Zac Pike 71’), Osian Evans, Cai Jones (Hari Price‑Clishelm 84’), Shaun Cavanagh (Jonny Bravo 62’) Unused substitute: Dan Clark (gk) Yellow cards: Sam Reynolds (45+2’), Steffan Alford (88’), Hari Price‑Clishelm (90+2’)
Referee: Michael Ronald Coburn Assistants: Glenn Gray, Finley Walley
Attendance: 116
Report: Treflyn Jones
