
CPD Porthmadog
Luke Baum 57′
1 vs 2
Bala Town
Tom Kelly 25′
Charlie Fisher 48′
05.09.2026
Cynghrair y Gogledd Novira Cymru North
Stadiwm / Venue: – Y Traeth, Porthmadog
Cic gyntaf / KO: 14:30pm
Noddwyr y gêm / Game Sponsors: Gary Falconer Electricals
Noddwyr y bêl / Ball Sponsors: Pritchard a Griffiths Cyf.

Roedd hon yn gêm dda gerbron torf dda am yr eildro ar Y Traeth eleni. Y Bala aeth a hi a hynny`n haeddiannol ar sail eu perfformiad yn yr hanner cyntaf. Wedi dweud hynny, mae Port yn haeddu clod mawr am eu perfformiad hwythau yn yr ail hanner pan ddaethant yn agos iawn i gipio pwynt.
Dechreuodd Y Bala ar y droed flaen ac roedd cyflymder Osebi Abadaki a Jake Phillips yn aml yn pery pryder i amddiffynwyr Port. Roedd pasio Bala yn gywirach ac roedd aml i ymosodiad yn cario bygythiad sylweddol tra roedd Port yn or-ddibynnol ar y bêl hir trwy gydol yr hanner a`r rheiny`n aml yn wastraffus.
Toc wedi ugain munud, daeth Okera Simmonds yn agos iawn i sgorio gyda pheniad aeth fodfeddi`n unig heibio postyn Robbie Williams a thri munud yn ddiweddarach aeth Bala ar y blaen. Bu i groesiad dwfn Abadaki guro`r amddiffyn gan gyrraedd Tom Kelly yn rhydd yn y cwrt. Gwnaeth Robbie Williams yn dda i arbed ei gynnig cyntaf ond casglodd Kelly y briwsion gan rwydo`n hyderus gyda`i ail gynnig.
Bu i Port oroesi ambell i storm wedi hyn a bu iddynt greu ambell ymosodiad addawol cyn yr egwyl yn enwedig ar 45 munud pan gododd Gruff John yn uchel i osod peniad cryf dim ond blewyn heibio`r postyn pellaf o groesiad yr asgellwr Dylan Summers-Jones… a dyna gyffro olaf yr hanner cyntaf.
Siom o`r mwyaf i gefnogwyr brwd Port oedd gweld Port yn ildio gôl arall a hynny gwta dri munud i mewn i`r ail hanner. O dafliad gyferbyn a`r cwrt, cododd John Owen yn uwch na phawb gan gyfeirio ei ôl-beniad i lwybr Charlie Fisher ac anelodd ei ergyd yn gelfydd i gefn y rhwyd. 0-2 a Port gyda mynydd i`w ddringo am yr ail waith mewn wythnos.
Wel, mi dorchodd Port eu llewys (roedd rhaid iddyn nhw!). Daeth eu chwarae yn llawer mwy ymosodol a diflannodd y pasio pellennig gwirion bost a welwyd gynt yn y pnawn. Yn wir, doedd hi fawr o syndod pan lwyddodd Luke Baum i rwydo gan ddod a gobaith i galonnau`r cefnogwyr cartref. Daeth hon yn sgil symudiad bendigedig i lawr yr asgell dde. Wedi gweithio ei hun i mewn i`r blwch cosbi, bu i`r anhunanol Sam Reynolds rowlio`r bêl i lwybr Luke Baum a ergydiodd yn ddidostur heibio La`trell Jones yn y gôl i`r Bala a`r cefnogwyr ifanc tu ol iddo ar ben eu digon. Haleliwia…..1-2.
Roedd Port yn cael gafael ynddi go iawn erbyn hyn gyda chwarae celfydd ac amyneddgar. Rhyfedd gweld Y Bala pwerus ar y droed ôl ar ôl mynd 0-2 ar y blaen! Ond, roedd Bala`n parhau i fod yn beryglus pan yn gwrth-ymosod. Yn wir, bu iddynt fethu un cyfle euraidd gyda thri munud yn weddill gyda dim ond y golwr Robbie Williams i`w guro.
Yna, ym mhen arall y cae bu raid i golwr Bala arbed yn dda o daran o ergyd o 25 llath gan y gweithgar Morgan Owen ac eiliadau cyn y chwiban olaf, datblygodd sgrambl aruthrol ym mlwch cosbi`r ymwelwyr. Ond, diolch i amddiffyn penderfynol gan y Meirionnwyr, fe oroesodd Y Bala. Port druan….hen dro!!
Oedd, roedd hi`n gem dda…..a chofiwch hynny. Dydy ennill ddim yn bopeth. Ddim cweit.
Sadwrn nesaf, byddwn yn croesawu Rhuthun i`r Traeth gyda`r gic gyntaf am 2:30. Daliwch i gredu!
Porthmadog: – Robbie Williams, Gruff John (Capt.) (Tom Mahoney 67`), Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Morgan Owen, Luke Baum (Shaun Cavanagh 74`), Ryan Williams (Rhys Alun 74`), Gwion Dafydd (Cai Jones 67`), Osian Ellis, Dylan Summers-Jones (Sam Reynolds 46`)
Eilyddion nas defnyddiwyd: – Dan Clark (gôl)
Y Bala: – La`trell Jones, Jake Phillips (Charlie Fisher 10`), Tom Kelly (Thomas Jones 83`), Will Bell, Iwan Lewis, John Owen (Capt.), Osebi Abadaki (James Farr 83`), Henry Evans, Aron Williams, Okera Simmonds (Mike Hayes 68`), Naim Arsan.
Eilydd nas ddefnyddiwyd: – Kyle Harrison
Dyfarnwr: – Tomos Huw Jones
Cynorthwywyr: – Connah Sears, Chimezirem Iwueke
Goruchwyliwr: – Paul Morgan
Torf: – 451
Adroddiad: – Treflyn Jones
This was a good game in front of a strong crowd for the second time at Y Traeth this season. Bala took the win, and deservedly so based on their first‑half performance. That said, Port deserves great credit for their own display in the second half, when they came very close to snatching a point.
Bala started on the front foot and the pace of Osebi Abadaki and Jake Phillips often caused concern for the Port defenders. Bala’s passing was more accurate and many of their attacks carried real threat, while Port were overly reliant on long balls throughout the half – most of which proved wasteful.
Just after twenty minutes, Okera Simmonds came very close to scoring with a header that went inches past Robbie Williams’ post, and three minutes later Bala took the lead. A deep cross from Abadaki beat the defence and found Tom Kelly free in the box. Robbie Williams did well to save his first effort, but Kelly pounced on the rebound and finished confidently with his second attempt.
Port survived a few storms after this and created some promising attacks before the break, especially on 45 minutes when Gruff John rose high to meet a strong header that went just a whisker past the far post from a Dylan Summers‑Jones cross… and that was the final excitement of the first half.
A huge disappointment for Port’s passionate supporters was seeing their team concede another goal just three minutes into the second half. From a throw‑in opposite the box, John Owen rose highest and flicked a back‑header into the path of Charlie Fisher, who guided his shot skilfully into the net. 0–2, and Port with a mountain to climb for the second time in a week.
Well, Port rolled up their sleeves (they had to!). Their play became far more attacking and the silly, aimless long passing seen earlier in the afternoon disappeared. Indeed, it was no surprise when Luke Baum scored to give hope to the home fans. It came from a superb move down the right wing. After working his way into the penalty area, the unselfish Sam Reynolds squared the ball into the path of Luke Baum, who fired ruthlessly past La’trell Jones in the Bala goal – much to the delight of the young supporters behind him. Hallelujah… 1–2.
Port were really getting hold of the game now with skilful, patient play. Strange to see the powerful Bala on the back foot after going 0–2 ahead! But Bala remained dangerous on the counter. In fact, they missed a golden chance with three minutes left, with only goalkeeper Robbie Williams to beat.
Then, at the other end, Bala’s keeper had to save well from a thunderous 25‑yard strike by the industrious Morgan Owen, and seconds before the final whistle an almighty scramble developed in the visitors’ penalty area. But thanks to determined defending from the Meirionnydd men, Bala survived. Poor Port… tough luck!
Yes, it was a good game… remember that. Winning isn’t everything. Not quite.
Next Saturday, we welcome Ruthin to Y Traeth with kick‑off at 2:30. Keep believing!
Porthmadog: Robbie Williams, Gruff John (Capt.) (Tom Mahoney 67’), Josh Banks, Sam Thomas, Gruff Ellis, Morgan Owen, Luke Baum (Shaun Cavanagh 74’), Ryan Williams (Rhys Alun 74’), Gwion Dafydd (Cai Jones 67’), Osian Ellis, Dylan Summers‑Jones (Sam Reynolds 46’) Unused substitute: Dan Clark (GK)
Bala Town: La’trell Jones, Jake Phillips (Charlie Fisher 10’), Tom Kelly (Thomas Jones 83’), Will Bell, Iwan Lewis, John Owen (Capt.), Osebi Abadaki (James Farr 83’), Henry Evans, Aron Williams, Okera Simmonds (Mike Hayes 68’), Naim Arsan. Unused substitute: Kyle Harrison
Referee: Tomos Huw Jones
Assistants: Connah Sears, Chimezirem Iwueke
Observer: Paul Morgan
Attendance: 451
Report: Treflyn Jones

