CPD Penrhyncoch
John James 60‘
1 vs 1
(3-4 c.o.s/pens)
CPD Porthmadog
Rhys Alun 55”
19.09.2026
Cwpan Cymru Rownd 1 / Welsh Cup 1st Rownd
Stadiwm / Venue: – Cae Baker, Penrhyncoch
Cic gyntaf / KO: 14:00pm
Roedd buddugoliaeth Port heddiw`n gwbl haeddiannol ond bu rhaid disgwyl yn hir iawn cyn i Hogia`r Traeth ei selio. Diolch i anallu Port i gymryd eu cyfleon ac amddiffyn penderfynol gan Penrhyncoch, roedd rhaid cael ciciau o`r smotyn felltith i weld tîm Chris Jones yn bwcio eu lle yn y rownd nesaf o gwpan Cymru.
Roedd y deng munud cyntaf yn ddigon tawel wrth i`r naill dim a`r llall gael trafferth i setlo ond daeth yr hynod weithgar Sion Williams yn agos wrth i`w ergyd o ongl dynn glirio`r trawst yn dilyn symudiad da i lawr yr asgell dde. Yna, daeth y tîm cartref yn agos wrth i ergyd o bell glirio trawst gôl Port wrth i Robbie Williams ôl-gamu`n bryderus. Mi fyddai hon wedi bod yn dipyn o gôl!
Wedi`r ugain munud cyntaf, dechreuodd Port setlo gan ddechrau edrych yn fygythiol wrth daflu sawl croesiad i fewn i flwch y tîm cartref ond heb roi digon o brawf ar eu golwr Leigh Jenkins. Ond pum munud cyn yr egwyl, methodd Luke Baum gyfle euraidd wrth i Jenkins golli ei afael ar y bêl yn annisgwyl, ond roedd ergyd Luke yn un dila a llwyddodd amddiffynnwr i`w chlirio oddi ar y llinell. Daeth Sion Williams yn agos eto cyn yr egwyl ond dros y trawst aeth hi eto a gorffennodd yr hanner cyntaf yn gyfartal 0-0.
Port, yn sicr, oedd piau hi yn yr ail hanner wrth iddynt dreulio cyfnodau sylweddol yn hanner Penrhyn a doedd hi fawr o syndod pan fu i Rhys Alun eu rhoi ar y blaen ar 55 munud pan rasiodd i gasglu pas dreiddgar i`r blwch gan Darren Thomas cyn ergydio`n daclus heibio llaw chwith Leigh Jenkins. Ond, cwta phum munud yn ddiweddarach, bu i Penrhyncoch unioni`r sgôr gyda gôl hynod siomedig o safbwynt amddiffynnol. Daeth ergyd isel galed i mewn o bellter ac wedi i honno gael ei gwyro, camodd John James i`r adwy i`w gosod heibio Robbie Williams i waelod y rhwyd. Roedd amddiffynwyr Port yn gandryll am ildio gôl pan oedd y tîm yn dominyddu`r gêm o ran meddiant a thiriogaeth ond dyma gewch chi mewn gêm gwpan ynte?
Roedd Penrhyn yn synhwyro cyfle wedyn a bu raid i Williams yn gôl Port fod yn effro iawn i lawio ergyd ardderchog dros y trawst.
Dilynwyd hyn gan don ar ôl ton o ymosodiadau gan Port i lawr y ddwy asgell gyda chiciau cornel niferus yn cael eu clirio ac ergydion yn cael eu blocio neu`n hedfan dros y trawst a bu raid i Jenkins arbed yn wych o foli Osian Ellis o dair llath cyn i`r chwarae ddod i ben.
Yna ……O NA! NA!…. CICIAU O`R SMOTYN………GO DRAPIA!
Wel, os oes gennych fynadd, dyma`r manylion.
- Cai Jones (Port) yn sgorio gydag ergyd i`r gornel er i Jenkins gael blaen ei fysedd arni 0-1
- Rhydian Davies (Penrhyn) – yn sgorio`n hyderus gan yrru Williams y ffordd anghywir 1-1
- Ryan Williams (Port) – arbediad gwych ond ail gymryd…arbediad gampus arall. O diar! 1-1
- Steffan Davies (Penrhyn) – yn sgorio 2-1
- Morgan Owen (Port) – yn sgorio 2-2
- Owain Evans (Penrhyn) – Williams yn arbed yn dda i`w chwith 2-2
- Dylan Summers-Jones (Port) – yn sgorio 2-3
- Christy Gale (Penrhyn) – yn sgorio 3-3
- Sam Reynolds (Port) ……ergyd nerfus dros y trawst. G-r-r-r-r! 3-3
- Marcus Yakou (Penrhyn) – Williams yn ei ddarllen gan arbed i`w chwith 3-3
- Osian Ellis (Port) – yn sgorio 3-4
- John James (Penrhyn)….dros y trawst…3-4 MAE PORT TRWODD!
Wel, dyna hi. Edrychwn ymlaen i weld pwy fydd ein gwrthwynebwyr yn yr ail rownd gan obeithio am gêm gartref y tro hwn
Sadwrn nesaf, byddwn yn teithio eto i`r Canolbarth i wynebu tîm cryf, Y Drenewydd gyda`r gic gyntaf am 2:30yp. Pob lwc!
Penrhyncoch: – Leigh Jenkins, William Evans, Cai Williams, Rhydian Davies, Solomon Watkin (Steffan Davies 58`), Guto Gwenallt (Marcus Yakou 74`), Christy Gale, Jakub Michalski (Liam Jacques 46`), Owain Evans, Kieran Booker, John James.
Eilyddion nad defnyddiwyd:- Elian Evans, Iestyn Duggan, Isaac Aldred, Connor Williams.
Cardiau melyn: – Owain Evans (65`), Marcus Yakou (87`), Guto Gwenallt (90+5`)
Porthmadog: –Robbie Evans, Sion Williams, Josh Banks (Cai Griffith 51`), Sam Thomas, Ryan Williams, Tom Mahoney (Morgan Owen 65`), Rhys Alun (Dylan Summers-Jones 73`), Sam Reynolds, Luke Baum (Osian Ellis (65`), Cai Jones, Darren Thomas (Gwion Dafydd 65`)
Eilydd nas ddefnyddiwyd:- Dan Clark (gôl)
Cardiau melyn: – Morgan Owen (87`), Marc Seddon (is-reolwr 90`)
Cerdyn coch: – Chris Jones (rheolwr…. dau gerdyn. Yr ail cyn y ciciau o’r smotyn)
Swyddogion y Gêm
Dyfarnwr: – Steffan Owen Jenkins
Cynorthwywyr: – David Badger, James Olyott
Torf: – 125
Adroddiad: – Treflyn Jones

Port’s victory today was fully deserved, but it took a very long time before the Traeth Boys finally sealed it. Thanks to Port’s inability to take their chances and the determined defending of Penrhyncoch, it took those cursed penalty kicks for Chris Jones’ team to book their place in the next round of the Welsh Cup.
The first ten minutes were quiet as both sides struggled to settle, but the ever‑busy Sion Williams came close when his tight‑angled shot skimmed the crossbar after a good move down the right. Then the home side went close when a long‑range effort clipped the Port crossbar with Robbie Williams back‑pedalling anxiously. That would have been some goal!
After the opening twenty minutes, Port began to settle and looked increasingly threatening, sending several crosses into the home box but without truly testing goalkeeper Leigh Jenkins. Five minutes before the break, Luke Baum missed a golden chance when Jenkins unexpectedly spilled the ball, but Luke’s shot lacked conviction and a defender cleared off the line. Sion Williams went close again before half‑time, but once more it flew over the bar, and the first half ended 0–0.
Port were certainly on top in the second half, spending long spells in Penrhyn territory, and it was no surprise when Rhys Alun put them ahead on 55 minutes, racing onto a clever through‑ball from Darren Thomas before finishing neatly past Jenkins’ left hand. But barely five minutes later, Penrhyncoch equalised with a hugely disappointing goal from a defensive point of view. A low, powerful shot came in from distance, took a deflection, and John James reacted quickest to place it past Robbie Williams into the bottom corner. Port’s defenders were furious to concede while dominating possession and territory — but that’s cup football for you.
Penrhyn sensed an opportunity and Williams had to be alert to tip an excellent strike over the bar.
What followed was wave after wave of Port attacks down both wings, with numerous corners cleared, shots blocked, or flying over the bar. Jenkins produced a superb save from an Osian Ellis volley from three yards before the match finally came to an end.
And then… OH NO! NO! … PENALTIES… GOOD GRIEF!
Well, if you’ve got the nerve, here are the details:
- Cai Jones (Port) – scored into the corner despite Jenkins getting his fingertips to it 0-1
- Rhydian Davies (Penrhyn) – confident finish, sending Williams the wrong way 1-1
- Ryan Williams (Port) – great save… retake… another brilliant save. Oh dear! 1-1
- Steffan Davies (Penrhyn) – scored 2-1
- Morgan Owen (Port) – scored 2-2
- Owain Evans (Penrhyn) – Williams saved well to his left 2-2
- Dylan Summers‑Jones (Port) – scored 2-3
- Christy Gale (Penrhyn) – scored 3-3
- Sam Reynolds (Port) – nervous strike over the bar. G‑r‑r‑r‑r! 3-3
- Marcus Yakou (Penrhyn) – Williams read it and saved to his left 3-3
- Osian Ellis (Port) – scored 3-4
- John James (Penrhyn) – over the bar… 3-4 PORT ARE THROUGH!
And that’s that. We look forward to seeing who our opponents will be in the second round, hopefully with a home tie this time.
Next Saturday, we travel again to Mid Wales to face a strong Newtown side, with kick‑off at 2:30pm. Good luck!
Penrhyncoch: – Leigh Jenkins, William Evans, Cai Williams, Rhydian Davies, Solomon Watkin (Steffan Davies 58’), Guto Gwenallt (Marcus Yakou 74’), Christy Gale, Jakub Michalski (Liam Jacques 46’), Owain Evans, Kieran Booker, John James.
Unused substitutes: Elian Evans, Iestyn Duggan, Isaac Aldred, Connor Williams.
Yellow cards: Owain Evans (65’), Marcus Yakou (87’), Guto Gwenallt (90+5’)
Porthmadog: – Robbie Evans, Sion Williams, Josh Banks (Cai Griffith 51’), Sam Thomas, Ryan Williams, Tom Mahoney (Morgan Owen 65’), Rhys Alun (Dylan Summers‑Jones 73’), Sam Reynolds, Luke Baum (Osian Ellis 65’), Cai Jones, Darren Thomas (Gwion Dafydd 65’)
Unused substitute: Dan Clark (goalkeeper)
Yellow cards: – Morgan Owen (87’), Marc Seddon (assistant manager, 90’)
Red card: – Chris Jones (manager — two yellows, the second shown before the penalty shoot‑out)
Match Officials
Referee: Steffan Owen Jenkins
Assistant referees: David Badger, James Olyott
Attendance: – 125
Report by: – Treflyn Jones
Ruthin: Daniel Goldston, Dan Cox, James Smith, Ethan Davies, Jack Waterhouse (Nathan Lloyd 65’), Dave Forbes (Noah Sumner 65’), Mitchell Williams (A. Kabir 78’), Tom Weyman, Thomas Mann, N.A. (Arthur Hancock 80’), Luka Graham Unused substitutes: Harley Salisbury‑Williams (GK), N.A.
Referee: Aled Rhys Williams
Assistants: Chimezirim Iwueke, David Griffiths
Attendance: 319
Report: Treflyn Jones
Dyma’r sgwrs gyda Robbie ar y chwiban olaf | Here is the chat with Robbie on the final whistle – clic/click